Dysgwyr, Rhieni a Gofalwyr
Eich arholiadau a'ch asesiadau 2021/2022
Rydyn ni’n gwybod ei bod wedi bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr gan fod y pandemig wedi amharu ar addysg.
Bydd y wybodaeth yn yr adran hon yn dy helpu di i ddeall sut bydd arholiadau ac asesiadau yn gweithio eleni. Mae'r wybodaeth hefyd yn ddefnyddiol i dy rieni neu dy warcheidwaid.
Mae gwybodaeth yno os wyt ti’n ddysgwr neu’n ymgeisydd preifat, sy'n gweithio tuag at gymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol.
Gelli di hefyd ymweld â'n tudalen cwestiynau cyffredin i gael llawer mwy o wybodaeth am gymwysterau'r haf yma.