Mater o degwch

Nid yw wythnosau cyntaf 2022 wedi cynnig llawer o seibiant i ni o'r aflonyddwch parhaus sydd wedi cael ei achosi o ganlyniad i bandemig Covid. Yn wir, mae'r amrywiolyn Omicron wedi cynyddu lefel yr aflonyddwch i addysg pobl ifanc ledled y DU.

Gyda lefelau uchel o haint yn parhau i effeithio ar absenoldeb dysgwyr ac addysgwyr mewn ysgolion a cholegau, mae'n anochel fod pobl yn cwestiynu a fydd arholiadau'r haf hwn yn deg ai peidio. 

Ond cyn i ni blymio’n syth i'r ddadl honno, mae angen i ni feddwl yn gyntaf am yr hyn rydyn ni’n ei olygu gyda’r gair ‘tegwch’. Nawr dydw i ddim yn bwriadu i hyn fod yn ddadansoddiad academaidd neu fforensig o'r hyn a olygwn wrth degwch. Bydd eraill mewn sefyllfa well i wneud hynny. Ond mae angen i ni gael rhywfaint o ddealltwriaeth sylfaenol o degwch i ystyried a fydd arholiadau'n deg ai peidio. 

Mae cwestiynau am degwch arholiadau yn cael eu codi yn aml – gan fyfyrwyr, rhieni ac addysgwyr. Rhaid i ni gydnabod yn gyntaf na fydd unrhyw system asesu yn berffaith deg. Mae gan bob dull gyfaddawdau, a'r cyfan rydyn ni’n gallu anelu ato yw'r dull tecaf o dan yr amgylchiadau.  

Mae ein credoau ni o ran tegwch yn arbennig o ddwys o dan yr amgylchiadau presennol, wrth ystyried bod y pandemig wedi effeithio ar gymaint o bobl ifanc – nid yn unig drwy amharu ar eu haddysg, ond hefyd yr effaith bersonol mae’r pandemig wedi ei gael o ran unigedd neu golled.  

Mae’r sefyllfa wedi bod yn anodd i bob un ohonon ni, ond yn arbennig felly i bobl ifanc. Felly, wrth ystyried sut i asesu pobl ifanc yn deg, rhaid i ni feddwl am sawl ffactor. 

Mae cymwysterau'n fath o asesiad addysgol sydd wedi dod yn norm diwylliannol yn y DU. Mae cwestiynau'n codi o bryd i'w gilydd am eu gwerth, p'un a ydyn nhw wedi mynd yn galetach neu'n haws, neu a oes angen pob un ohonyn nhw, ond waeth beth fo'r materion hyn maen nhw wedi dod yn rhan annatod o'n diwylliant ac wedi dod yn gyfrwng i bobl allu symud ymlaen i barhau mewn addysg neu i gael eu cyflogi. Dyma sut rydyn ni'n mesur beth mae rhywun yn ei wybod, beth maen nhw’n ei ddeall neu beth maen nhw'n gallu ei wneud.  

Fel ffordd o fesur, dydyn nhw ddim yn gallu newid beth sy'n cael ei fesur.  

Dylai asesiad, naill ai drwy arholiad neu drwy ddyfarniad athro, fesur yr un peth a dydy dull mesur ddim yn gallu newid cyrhaeddiad unigolyn. Un tro, defnyddiodd ffrind y gyfatebiaeth fod cymwysterau fel thermomedr – maen nhw’n gallu mesur y tymheredd ond dydyn nhw ddim yn gallu ei newid e. 

Felly, pan fyddwn ni’n meddwl am y ffordd decaf i asesu pobl ifanc, rhaid i ni gyfyngu ein hunain i feddwl am y math tecaf o fesur. Ni fydd ac ni all cymwysterau fynd i’r afael yn llawn â holl effeithiau anghyfartal a niferus y pandemig.  

Mae cymwysterau sydd wedi'u cynllunio'n ofalus yn gallu bwrw goleuni ar bethau fel y bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched, neu ddysgwyr o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol – ond dydyn nhw ddim yn gallu eu newid nhw. 

Mewn sawl ffordd, mae rhai o'r cwestiynau sydd wedi cael eu codi am degwch yn ystod y misoedd diwethaf yn rhai sy’n codi bob blwyddyn. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio gyda chymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch sydd wedi'u cynllunio'n bennaf i gael eu hasesu drwy arholiad. 

Yr anhawster yw bod y pandemig yn effeithio ar bawb yn wahanol. I rai, mae'r effaith yn uniongyrchol ac yn ddwys, ac i eraill mae’r effaith yn gallu bod yn llawer llai.  

Er enghraifft, mae ffigurau presenoldeb yn dangos bod mwy o bobl ifanc nag arfer yn absennol o'u man dysgu, ond dydy'r ffigurau hyn ddim yn dweud llawer wrthyn ni am y broses ddysgu: ydy dysgwyr yn bresennol mewn ysgolion a cholegau, ond ddim yn cymryd rhan yn eu hastudiaethau, neu ydy dysgwyr yn absennol o'r ysgol, ond yn ymgymryd â dysgu o bell gyda neu heb fynediad at gymorth tiwtor neu rieni? Rydyn ni’n gwybod bod y darlun yn gymhleth ac yn ddryslyd. 

Felly sut dylen ni asesu pobl ifanc eleni? 

Mae gan lawer o bobl farn wahanol ar y mater anodd iawn hwn. Dydy hwn ddim yn  gwestiwn syml i'w ateb a rhaid edrych ar yr opsiynau. Yn gyntaf, dyma rai ffactorau i'w hystyried: 

  • Mae cymwysterau cyfredol wedi'u cynllunio i gael eu hasesu mewn ffyrdd pendant – felly os yw arholiadau'n rhan o'r cynllun, yna mae symud oddi wrthyn nhw’n arwyddocaol. 
  • Gan fod canlyniadau cymwysterau yn gweithredu fel 'cyfrwng' ar gyfer dilyniant, rhaid meddwl am y system addysg yn ei chyfanrwydd. 
  • Nid ganol y pandemig, pan fydd y system addysg yn sefyll yn ei hunfan, yw’r amser gorau i gyflwyno newidiadau mawr yn ddiogel.  

O ystyried y ffactorau hyn, rydyn ni’n credu mai'r unig opsiynau gwirioneddol yw naill ai bwrw ymlaen ag arholiadau, er gyda rhai newidiadau sylweddol, neu (os oes angen) defnyddio model o asesu gan athrawon – datblygiad o'r dull "graddau a bennir gan y ganolfan" a gafodd ei ddefnyddio llynedd. 

Felly, gadewch i ni ddechrau gyda phrif fanteision system arholiadau: 

  • Mae’r amodau yr un fath i bawb gyda phawb yn sefyll yr un prawf yr un pryd ac o dan yr un amodau. 
  • Mae'n ddull sy'n cael ei ddeall yn dda – er ein bod yn cydnabod y bydd yn brofiad newydd i'r rhan fwyaf o ddysgwyr eleni. 
  • Mae’n cael ei gyflwyno gan gorff dyfarnu sy’n hyrwyddo didueddrwydd ac yn lleihau'r llwyth gwaith i ysgolion a cholegau – gan adael iddyn nhw ganolbwyntio ar addysgu a dysgu. 
  • Mae'n cymell dysgwyr i wneud eu gorau ac i ddangos eu cyrhaeddiad. Mae hefyd yn sgìl bywyd sy'n eu paratoi i wynebu sefyllfaoedd eraill mewn bywyd sy'n achosi straen. 
  • Mewn blynyddoedd arferol, mae safonau’n cael eu cynnal o flwyddyn i flwyddyn, sy'n golygu bod canlyniadau'n deg i ddysgwyr y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, a bod y system addysg yn gallu dibynnu ar y canlyniadau. 

Gadewch i ni gyferbynnu hyn â'r model asesu gan athrawon – neu’r ‘graddau a bennir gan y ganolfan’ fel y gwnaethon ni eu galw nhw yng Nghymru llynedd: 

  • Roedd y dull gweithredu llynedd o reidrwydd yn hyblyg ac yn caniatáu i ysgolion a cholegau fabwysiadu dulliau gwahanol yn ôl eu cyd-destun. Roedd hyn yn golygu bod y graddau a gafodd dysgwyr yn ymwneud i ryw raddau â'r ysgol neu'r coleg roedden nhw’n ei fynychu yn hytrach nag eu cyrhaeddiad yn unig.  
  • Nid oedd un system oedd yn gallu cael ei hegluro’n ganolog, ond gofynnwyd i ysgolion a cholegau egluro sut roedden nhw am fynd ati i asesu ym mhob pwnc. 
  • Bu'n rhaid i ysgolion a cholegau ddatblygu a chyflwyno eu systemau asesu eu hunain, a oedd yn creu baich enfawr a byddai rhai'n dweud baich nad oedd modd iddyn nhw ei reoli. 
  • Ni chafodd safonau eu cynnal a chynyddodd canlyniadau, yn enwedig mewn Safon UG a Safon Uwch, mewn ffordd nas gwelwyd o’r blaen. Fe wnaeth hyn ansefydlogi'r system addysg ac arweiniodd at rai prifysgolion yn awgrymu y gallan nhw gyflwyno eu profion derbyn eu hunain. 

Cafodd y materion hyn eu derbyn yn eang fel cyfaddawdau y bu'n rhaid eu gwneud o dan yr amgylchiadau llynedd - yn enwedig lle roedd effaith y pandemig yn fwy cyson ar draws y garfan gyfan. Nid beirniadaeth yw'r pwyntiau uchod o'r gwaith rhagorol a wnaed gan ysgolion neu golegau, a dydyn nhw ddim ychwaith yn bwriadu tanseilio'r hyn y gwnaeth pobl ifanc ei brofi, ond maen nhw’n dangos bod tegwch yn fater cymhleth. 

Os dychwelwn ni at ddiben canolog asesu, sef mesur cyrhaeddiad, yna bydd y cwestiwn ynghylch tegwch yn troi’n: “Beth yw'r dull tecaf o dan yr amgylchiadau?”  

Rydyn ni’n credu bod arholiadau'n darparu'r dull tecaf o ystyried yr amgylchiadau presennol ond rydyn ni’n cydnabod na all fod yn gywiriad llym i “fusnes fel arfer” – yn enwedig os ydych chi’n ystyried mai’r rhai sy'n sefyll cymwysterau eleni sydd wedi profi’r aflonyddwch mwyaf ar eu haddysg.  

Dyna pam mae cyrff dyfarnu wedi gwneud newidiadau i'w hasesiadau i leihau'r hyn sy'n cael ei asesu, ac yng Nghymru, rydyn ni wedi dilyn yr un trywydd â'n cydweithwyr yn Lloegr ac wedi gofyn i gyrff dyfarnu osod safonau hanner ffordd rhwng 2019 (cyn y pandemig) a 2021. Mae hyn yn golygu bod ffiniau graddau (y marciau gofynnol sydd eu hangen i gael graddau penodol) yn debygol o fod yn is na'r arfer yr haf hwn a bydd y dull o ddyfarnu graddau yn fwy hael. 

Gan gofio y gallai'r pandemig gymryd tro arall, mae gennym ni gynlluniau wrth gefn ar waith i athrawon ddyfarnu graddau os bydd y sefyllfa'n newid ar unrhyw adeg ac os bydd Llywodraeth Cymru yn dewis canslo arholiadau am nad yw'n ddiogel eu cynnal. 

Felly, beth mae hyn yn ei olygu i bobl ifanc sy'n sefyll cymwysterau yr haf hwn? Wel, mae angen iddyn nhw barhau i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau oherwydd boed hynny drwy asesiad arholiad neu asesiad athrawon, bydd angen iddyn nhw fod yn barod i sefyll asesiadau sy'n mesur beth maen nhw’n ei wybod, beth maen nhw’n ei ddeall a beth maen nhw’n gallu ei wneud.  

Gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru  

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf yn y Times Educational Supplement/cylchgrawn TES