Hysbysiad Preifatrwydd – Ymholiadau cyffredinol
Noder, pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn cadw eich manylion cyswllt a'ch ymholiad ar ein systemau yn unol â'r sail gyfreithiol dros brosesu er budd y cyhoedd a'n swyddogaethau statudol o dan adran 46 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Byddwn yn cadw'r wybodaeth hon at ddibenion ymateb i'ch ymholiad, ac er mwyn cadw gwybodaeth am ein hanes gohebiaeth flaenorol â chi (neu'r sefydliad rhanddeiliad rydych yn ei gynrychioli) os byddwch yn cysylltu â ni eto.
Caiff eich manylion cyswllt a'ch ymholiad eu cadw at y dibenion a restrir, a chânt eu cadw a'u gwaredu yn unol â'n hamserlen gadw yn dibynnu ar natur eich ymholiad.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, fod unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym (gan gynnwys ymholiadau ysgrifenedig) yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn ystyried y Ddeddf Diogelu Data cyn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol y gofynnir amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych hawl i wneud y canlynol:
-
gwneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch
-
gofyn i ni gywiro unrhyw wallau
-
gofyn i'ch data eich data personol gael eu dileu
-
cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
-
gwrthwynebu'r prosesu
-
gwneud cais i'ch data gael eu cludo (cludadwyedd data)
Er mwyn dysgu mwy am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Anfonwch unrhyw geisiadau o'r fath at
Swyddog Diogelu Data
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn
Parc Imperial
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth