Hysbysiad preifatrwydd – Adolygiad Cyflym Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
Bydd gwybodaeth sy'n datgelu hunaniaeth unigolion (enw, gweithle a’ch barn ar agweddau ar gymwysterau neu’r system gymwysterau) yn cael ei chasglu drwy'r gweithgaredd ymgysylltu â rhanddeiliaid hwn. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i ni gadw cofnodion priodol o'ch cydsyniad i gymryd rhan yn y gweithgaredd.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cefnogi ein prif nodau, sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn y system gymwysterau yng Nghymru.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer cadw'r wybodaeth hon yw ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac arfer ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Cymwysterau Cymru fydd Rheolydd Data unrhyw ddata personol a gaiff ei chasglu.
Bydd gwasanaethau trawsgrifio trydydd parti (Appen) yn cael eu defnyddio i drawsgrifio'r cyfweliadau. Bydd trawsgrifiadau a chofnodion ffeiliau fideo wedyn yn cael eu trosglwyddo i Cymwysterau Cymru, lle byddan nhw’n cael eu storio o dan fynediad cyfyngedig.
Dim ond at y dibenion uchod y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw a bydd yn cael ei dinistrio pan na fydd angen ei chadw mwyach ar gyfer y dibenion hynny.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben ac eithrio wrth arfer ein tasg gyhoeddus.
Rhyddid Gwybodaeth
Gan ein bod yn gorff cyhoeddus mae’r holl wybodaeth ysgrifenedig sydd gennym yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR wrth ystyried ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i:
- wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch chi
- cywiro unrhyw gamgymeriadau
- cael eich data personol wedi'i ddileu
- gosod cyfyngiad ar ein gwaith o brosesu eich data
I ddysgu mwy am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gallwch anfon unrhyw geisiadau o'r fath at:
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad C2, Lôn Pencarn,
Parc Imperial,
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os ydych yn anfodlon â'n hymateb gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF