Hysbysiad preifatrwydd – Ymchwil i addasiadau i drefniadau asesu yn ystod haf 2022
Caiff gwybodaeth sy'n adnabod unigolion (enwau, manylion cyswllt, rôl swydd, a phynciau a gaiff eu haddysgu a chymwysterau a gaiff eu hastudio) ei chasglu yn ystod y cyfweliadau hyn.
Mae angen i ni wneud hyn er mwyn i ni gasglu gwybodaeth gan randdeiliaid am eu barn ar addasiadau i drefniadau asesu yn ystod haf 2022.. Mae hyn er mwyn cefnogi ein prif nodau, sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn y system gymwysterau yng Nghymru.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer cadw'r wybodaeth hon yw er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac arfer ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Cymwysterau Cymru fydd Rheolydd Data unrhyw ddata personol a gaiff ei gyflwyno.
ORS (cwmni ymchwil trydydd parti yn y DU) fydd yn cynnal yr ymchwil ar ran Cymwysterau Cymru.
Dim ond at y dibenion uchod y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw. Bydd yn cael ei chadw'n ddiogel am 12 mis ar ôl cwblhau'r prosiect ac yna caiff ei dinistrio. Yna byddwn yn cadw eich ymatebion heb wybodaeth adnabod yn unol â'n hamserlen gadw (i'w hadolygu i'w gwaredu ar ôl chwe mlynedd o gwblhau'r prosiect).
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben ac eithrio wrth arfer ein tasg gyhoeddus.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, bod yr holl wybodaeth ysgrifenedig sydd gennym yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn ni’n cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU wrth ystyried ceisiadau a gaiff eu gwneud o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i:
- wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch chi
- cywiro unrhyw gamgymeriadau
- cael eich data personol wedi'i ddileu
- gosod cyfyngiad ar ein gwaith o brosesu eich data
I ddysgu mwy am yr hawliau hyn, ewch i wefan yr ICO.
Gallwch anfon unrhyw geisiadau o'r fath at:
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad C2, Lôn Pencarn,
Parc Imperial,
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os ydych chi’n anfodlon â'n hymateb gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF