Hysbysiad preifatrwydd – Prosiect MERV - Gweithgaredd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn archwilio y gallu i reoli cymwysterau mewn ysgolion
Bydd gwybodaeth sy'n adnabod unigolion (enw'r sefydliad, teitl swydd, enw'r cyfranogwr, manylion cyswllt, ymatebion unigol) yn cael ei chasglu ystod y cyfweliadau hyn.
Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i ni gasglu gwybodaeth gan randdeiliaid am eu barn ar hydrinedd cyflwyno cymwysterau mewn ysgolion. Mae hyn er mwyn cefnogi ein prif nodau, sef:
- sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
- hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.
Ein sail gyfreithlon dros gadw'r wybodaeth hon yw er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac arfer ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Cymwysterau Cymru fydd Rheolwr Data unrhyw ddata personol a gyflwynir. Bydd Appen (cwmni gwasanaethau trawsgrifio yn y DU) yn gweithredu fel prosesydd ar ran Cymwysterau Cymru ac felly bydd yn prosesu unrhyw ddata personol sydd wedi'i gynnwys mewn ymatebion cyfweliad.
Dim ond at y dibenion uchod y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw. Bydd yn cael ei chadw'n ddiogel am 12 mis ar ôl cwblhau allbynnau’r gweithgaredd ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yna caiff ei dinistrio.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben heblaw wrth arfer ein tasg gyhoeddus.
Rhyddid Gwybodaeth
Sylwer, fel corff cyhoeddus, bod yr holl wybodaeth ysgrifenedig sydd gennym yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 y DU a GDPR wrth ystyried ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich Hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl i:
- ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol sydd gan Cymwysterau Cymru
- gofyn i ni gywiro unrhyw wallau
- gofyn i’ch data personol gael ei ddileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
I ddysgu mwy am yr hawliau hyn gweler gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gallwch anfon unrhyw geisiadau o’r fath at:
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn,
Parc Imperial,
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745