Cymraeg 2050 - Newidiadau i gymwysterau Cymraeg

Dydd Mercher 16 Chw 2022

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi y bydd newidiadau'n cael eu gwneud i gymwysterau Cymraeg er mwyn helpu mwy o ddysgwyr i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

Mae'r rheoleiddiwr wedi bod yn adolygu'r cymwysterau sydd ar gael ar lefel TGAU i ddysgwyr sy'n astudio Cymraeg. Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, mae wedi argymell triawd o gymwysterau a fydd ar gael ar gyfer 2025.

Dyma'r newidiadau:

  • Bydd Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn cael eu cyfuno'n un TGAU ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
  • Bydd TGAU Cymraeg Ail Iaith yn dod i ben, a bydd TGAU Cymraeg newydd yn cael ei greu ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg.
  • Cymhwyster ychwanegol newydd i ddisgyblion mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg sy'n barod i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.

Meddai Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru, Bydd y set newydd hon o gymwysterau yn annog pob dysgwr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus, waeth pa fath o ysgol maen nhw’n ei mynychu, a bydd yn helpu i gyflawni nodau strategaeth iaith 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru.

Yn y pen draw, rydyn ni am weld un cymhwyster Cymraeg cyffredinol ar gyfer pob dysgwr ym mhob lleoliad, ond nid ydyn ni yno eto oherwydd bod gan ddysgwyr lefelau amrywiol o gysylltiad â'r iaith.

“Bydd y cymwysterau'n rhoi cyfle teg a chyfartal i bob dysgwr gyflawni yn y Gymraeg. Maen nhw’n adlewyrchu'r gwahanol setiau o ddisgwyliadau ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, fel yr amlinellir yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, tra hefyd yn caniatáu i'r dysgwyr hynny mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sy'n barod, i symud ymlaen ymhellach ac yn gyflymach ar hyd y continwwm Cymraeg. 

Rydyn ni wedi gweithio'n agos gydag athrawon, arbenigwyr pwnc a Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod y cynnig hwn yn diwallu anghenion dysgwyr fel bod ganddyn nhw’r sgiliau a'r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu dysgu, eu gwaith a'u bywydau bob dydd.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: Dylai cymwysterau Cymraeg gefnogi pob dysgwr ar eu taith Gymraeg a darparu llwybr tuag at nod cyffredin. Rwy’n croesawu’r cymwysterau Cymraeg newydd, sy’n cael gwared ar y cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith ac a fydd yn gwobrwyo gwaith caled y rhai sy’n astudio’r Gymraeg ar draws sbectrwm cyfan profiad a gallu yn y Gymraeg.

“Rydw i wedi bod yn glir bod yn rhaid i newidiadau i gymwysterau fod yn radical ac yn uchelgeisiol a chefnogi’r Cwricwlwm newydd, wrth inni symud at gontinwwm ar gyfer dysgu Cymraeg, o’r rhai sydd ag ychydig neu ddim profiad iaith, i’r rhai sy’n gweithio tuag at hyfedredd.”

Mae cyfle gwirioneddol i weithio gyda Cymwysterau Cymru i helpu i lunio'r cymwysterau newydd hyn ac rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymwneud â'r broses dros y misoedd nesaf.

Mae cymwysterau Cymraeg i ddysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg wedi bod yn datblygu dros y pum mlynedd diwethaf. Yn 2017, creodd Cymwysterau Cymru gwrs TGAU llawn newydd, mwy heriol a wnaeth ddisodli’r cyrsiau llawn a byr mewn TGAU Cymraeg Ail Iaith a TGAU Cymraeg Cymhwysol. Y newidiadau hyn oedd y cam cyntaf ar daith barhaus o ddiwygio a datblygu cymwysterau Cymraeg.

Bydd Cymwysterau Cymru nawr yn gweithio'n agos gydag athrawon, arholwyr, cyflogwyr a phobl ifanc i ddatblygu cynnwys, dulliau addysgu ac asesu'r tri chymhwyster newydd ar y cyd. Y disgwyl yw y bydd y cymwysterau newydd yn barod i'w haddysgu am y tro cyntaf yn 2025.

Ychwanegodd Emyr: Rydyn ni wedi recriwtio athrawon a gweithwyr addysgol proffesiynol i helpu i lunio'r cymwysterau Cymraeg newydd hyn ac rydyn ni ar fin lansio ymgyrch fawr i ddysgwyr roi eu barn i ni ar sut bethau ddylai'r cymwysterau newydd fod. Mae hwn yn gyfnod allweddol inni ailystyried ac ail-ddychmygu cymwysterau newydd fel rhan o'n rhaglen Cymwys ar gyfer y Dyfodol.

Bydd pawb yn cael cyfle i roi adborth ar sut bydd y cymwysterau Cymraeg newydd yn edrych, ynghyd â newidiadau i bynciau eraill yn nhymor yr hydref.

Meddai Dr. Alex Lovell, Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, “Nid oes amheuaeth bod llawer mwy o waith i’w wneud o hyd er mwyn cau’r bwlch rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg mewn perthynas â darpariaeth ar gyfer y Gymraeg. Er hynny, mae penderfyniad Cymwysterau Cymru i lunio cymhwyster TGAU Cymraeg newydd a fydd unwaith eto yn codi’r her a’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr y sector cyfrwng Saesneg i’w groesawu’n gyffredinol. Ac mae ei benderfyniad i greu cymhwyster ychwanegol i bontio rhwng y ddau TGAU newydd yn benodol yn gam cyntaf pwysig tuag at gefnogi uchelgais Cymraeg 2050 a galluogi’r dysgwyr Cymraeg hynny sydd am symud yn gynt ac yn bellach ar hyd y continwwm iaith i wneud hynny.”

Bydd adroddiad penderfyniadau manwl am gymwysterau Cymraeg ar gael i'w ddarllen a'i lawrlwytho o wefan Cymwysterau Cymru ddydd Mercher 2 Mawrth.

Rydyn ni wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin am y tri chymhwyster.