Cyfres arholiadau Ionawr 2020: canlyniadau
Dydd Iau 05 Maw 2020Heddiw bydd dysgwyr yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau ar gyfer cyfres arholiadau Ionawr 2020.
Mae'r canlyniadau'n cynnwys:
- dyfarniadau uned o gymwysterau diwygiedig ar gyfer Cymru yn unig TGAU Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU Llenyddiaeth Saesneg;
- nifer fach o gymwysterau TGAU etifeddol;
- dyfarniadau uned o ddau gymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd; a
- chydrannau Tystysgrif Her Sgiliau Cyfnod Allweddol 4 ac Uwch Bagloriaeth Cymru.
Gwnaethom graffu ar broses ddyfarnu CBAC ar gyfer y cymwysterau hyn ac rydym yn fodlon bod y ffiniau gradd a osodwyd gan CBAC yn briodol a bod safonau wedi'u cynnal.
Mae crynodeb o'r canlyniadau ar gael ar wefan CBAC.