Cadarnhad y bydd arholiadau galwedigaethol Ionawr 2021 yn parhau yn ôl y bwriad
Dydd Iau 07 Ion 2021Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau y bydd cymwysterau galwedigaethol ar gyfer Cymru’n unig yn parhau yn ôl y bwriad ym mis Ionawr 2021.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fydd ysgolion a cholegau yn ailagor tan 18 Ionawr 2021, ac eithrio i blant sy'n agored i niwed, plant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sydd angen cwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol. Mae Adran Addysg y DU wedi cadarnhau y bydd arholiadau galwedigaethol tair gwlad hefyd yn mynd rhagddynt yn ôl y bwriad ym mis Ionawr.
Os na all dysgwyr sefyll eu harholiadau ym mis Ionawr, byddant yn cael cyfle i gwblhau eu hasesiadau yn yr haf.