Cynnig Cymraeg: Darparu’r Cynnig Gweithredol yn y system gymwysterau
Pecyn adnoddau i gefnogi cyrff dyfarnu i ddarparu'r Cynnig Gweithredol
Comisiynwyd y pecyn hwn gan Cymwysterau Cymru ac fe’i ddarparwyd gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Mae’r pecyn adnoddau hwn wedi’i ddatblygu i gefnogi pob corff dyfarnu cydnabyddedig i gyflwyno’r Cynnig Cymraeg, ac i wneud hynny yn rhagweithiol. Yn y pecyn hwn rydym yn cyfeirio at hyn fel y Cynnig Gweithredol.
Mae’r adnoddau yn cynnwys:
- cyflwyniad i’r Cynnig Gweithredol - Beth yw e? Pam fod ei angen arnom yn y system gymwysterau? Beth yw’r manteision i chi ac i ddysgwyr?
- ffyrdd y gallwch oresgyn yr heriau sy'n gysylltiedig â sicrhau bod cymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gael ac annog pobl i'w dilyn
- manteision darparu’r Cynnig Gweithredol i chi
- y Cynnig Gweithredol ar waith – sut mae’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd
- syniadau a chamau ymarferol y gallwch eu cymryd er mwyn darparu’r Cynnig Gweithredol
- dolenni defnyddiol i adnoddau pellach, cymorth ac arweiniad.
Mae yma dri phroffil dysgwr sy’n dangos sut y mae’r Cynnig Gweithredol yn medru effeithio ar brofiad dysgwr wrth ymgymryd â chymhwyster.
Mae wedi ei baratoi fel adnodd neidio mewn ac allan, sy’n eich galluogi i gael mynediad at wybodaeth sydd o bwys i chi.
Defnyddiwch y dolenni isod i lywio i bob adran fel y dymunwch |
|
|
|
|
|
|
|
|
|