Grŵp Cynghori ar Ymchwil Cymwysterau Cymru
Prif ddiben ein Grŵp Cynghori ar Ymchwil yw helpu'r sefydliad i gyflawni ei brif nodau, sef sicrhau bod cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr ac yn ennyn hyder y cyhoedd.
Sefydlwyd y grŵp er mwyn helpu i ddatblygu'r gwaith ymchwil a wneir gan y sefydliad drwy ddarparu cyngor ar ddyluniad yr ymchwil, y fethodoleg, y gwaith dadansoddi a'r broses adrodd ar ganfyddiadau, ynghyd â herio hyn oll.
Mae'r grŵp yn cynnwys y cadeirydd, hyd at chwe aelod allanol ac un aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru.
Mae'r grŵp yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn o leiaf, ond gall aelodau roi cyngor ychwanegol yn ôl yr angen. I gael rhagor o wybodaeth am y cylch gorchwyl.
Alison Standfast, Cadeirydd
Alison Standfast, Cadeirydd
Alison Standfast yw Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Corfforaethol Cymwysterau Cymru. Mae hi’n gofalu am yr holl syddogaethau corfforaethol, gan gynnwys y tîm ymchwil ac ystadegau. Cyn ymuno â Cymwysterau Cymru, bu’n gweithio i Lywodraeth Cymru am 13 blynedd, yn rheoli is-adran gaffael Gwerth Cymru, cyn symud i redeg y prosiect i greu Cymwysterau Cymru. Cyn hyn, bu’n gweithio i British Airways am 17 blynedd mewn sawl rôl fasnachol.
Graham Hudson, Yr Aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru
Graham Hudson, Yr Aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru
Mae Graham yn ymgynghorydd asesu nodedig yn y DU sydd wedi gweithio’n helaeth i fyrddau arholi cenedlaethol ac asiantaethau’r llywodraeth ar reoli a moderneiddio systemau arholi. Mae ei yrfa’n cwmpasu sawl carreg filltir mewn diwygiadau addysgol ac asesu yn y DU, gan gynnwys cyflwyno arholiadau TGAU, diwygiadau i'r cwricwlwm cenedlaethol ac ailstrwythuro Safon Uwch. Mae wedi cyflwyno rhaglenni marcio cenedlaethol sylweddol, wedi ymgymryd ag ymchwil cenedlaethol wedi’i ariannu ar y defnydd o dechnoleg wrth asesu ac wedi cyflwyno un o'r systemau cyntaf yn y DU ar gyfer sganio sgriptiau arholiad a marcio o ddelwedd.
Yn ddiweddarach fe arbenigodd mewn cefnogi datblygiad busnes ar gyfer sefydliadau a galluogi'r newid o asesu papur i gyflwyno digidol ar gyfer llawer o sefydliadau cenedlaethol a phroffesiynol. Mae wedi teithio'n helaeth i hyrwyddo a gweithredu datrysiadau e-asesu. Mae’n angerddol ac mae ganddo weledigaeth ar gyfer y dyfodol i harneisio buddion a phŵer dysgu ac asesiadau wedi’u gyfoethogi’n ddigidol ar gyfer systemau addysg ac asesu prif ffrwd, cenedlaethol.
Isabel Nisbet, Aelod
Isabel Nisbet, Aelod
Mae gyrfa Isabel wedi cynnwys gweithio ym maes gwasanaeth cyhoeddus a rheoleiddio, yn enwedig addysg ac asesu addysgol. Mae wedi dal amrywiaeth o swyddi yn y gwasanaeth sifil yn yr Alban a Lloegr, ac yn 2008 fe’i penodwyd yn Brif Swyddog Gweithredol cyntaf Ofqual, rheoleiddiwr arholiadau a chymwysterau Lloegr. Rhwng 2011 a 2014, bu'n gweithio yn Ne Ddwyrain Asia ar ran Cambridge International Examinations.
Mae Isabel yn Ddarlithydd Cyswllt yng Nghyfadran Addysg, Prifysgol Caergrawnt. Mae'n gwasanaethu ar Fwrdd Prifysgol Swydd Bedford ac ar ddau bwyllgor sy'n cynghori'r Llywodraeth ar gwestiynau moesegol. Yn 2021 fe'i penodwyd i banel a oedd yn cynnal Adolygiad Annibynnol o Addysg yng Ngogledd Iwerddon.
Anne Pinot de Moira, Aelod
Anne Pinot de Moira, Aelod
Mae Anne yn Ystadegydd Siartredig (CStat) gyda 25 mlynedd o brofiad, yn bennaf ym meysydd addysg ac asesu. Rhwng 1996 a 2014 bu'n gweithio i AQA yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Addysgol (CERP) fel Pennaeth Ymchwil Asesu. Yn ystod ei chyfnod gydag AQA defnyddiwyd ei hymchwil i ddylanwadu ar benderfyniadau polisi ac i helpu i weithredu newidiadau i asesiadau cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ers 2015 mae hi wedi bod yn gweithio'n annibynnol fel ymgynghorydd. Mae wedi gweithio'n agos gydag Ofqual ac ar y cyd â byrddau arholi a phrifysgolion.
Mae Anne yn Gymrawd Anrhydeddus yn Adran Addysg, Prifysgol Rhydychen, lle mae hi wedi helpu gyda’r gwerthusiad ystadegol o effaith llwybrau TGAU llinol a modiwlaidd ar gyrhaeddiad. Roedd ymchwil diweddaraf Anne yn canolbwyntio ar ansawdd asesu, dibynadwyedd marcio a dyluniad cynlluniau marcio ond mae hi hefyd wedi cynhyrchu ymchwil ym meysydd dylunio asesu, safonau a chymaroldeb.
Dr Mary Richardson, Aelod
Dr Mary Richardson, Aelod
Mae Mary’n Athro Asesu Addysgol yn Adran y Cwricwlwm, Addysgeg ac Asesu yn IOE, Adran Addysg a Chymdeithas UCL. Mae’n arwain MA mewn Asesu Addysgol ac yn goruchwylio myfyrwyr doethurol sydd â diddordeb mewn asesu, moeseg a hawliau plant. Mae Mary’n aelod o’r Grwpiau Cynghori ar Ymchwil AQA, ac mae hi hefyd yn cynghori Grŵp Cynghori Technegol Academaidd PTE Pearson ar dechnoleg a phrofi deallusrwydd artiffisial, gan ganolbwyntio’n benodol ar foeseg profi a phrofiadau moesegol y rhai sy’n cymryd profion. Ar hyn o bryd mae'n gwneud gwaith ymchwil yn y maes hwn, gan archwilio rôl deallusrwydd artiffisial yn y broses a'r arfer o brofion pwysigrwydd uchel.
Ar hyn o bryd mae Mary’n arwain yr adrodd yn Lloegr ar gyfer y profion Tueddiadau Rhyngwladol mewn Astudiaethau Mathemateg a Gwyddoniaeth ar gyfer yr Adran Addysg. Disgwylir i'w llyfr unigol cyntaf, ‘Rebuilding Public Confidence in Educational Assessment’, gael ei gyhoeddi ar 1 Mai 2022 gan Wasg UCL. Mae'n archwilio'r hyn sydd wedi digwydd i ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn asesiadau, sut mae pobl ifanc yn cael eu siapio'n negyddol gan brofion, a’r hyn y gellir ei wneud i newid hyn.
Andrew Boyle, Aelod
Andrew Boyle, Aelod
Andrew yw'r Cyfarwyddwr Ymchwil yn AlphaPlus Consultancy Ltd. Prif waith Andrew yw darparu arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer gweithgareddau ymchwil AlphaPlus. Mae hyn yn golygu darparu ymchwil asesu o ansawdd uchel ac allbynnau dadansoddol i ystod eang o gleientiaid ar draws y sectorau addysg a hyfforddiant. Mae Andrew hefyd yn ymchwilydd ar ei liwt ei hun. Mae’n Gymrawd y gymdeithas asesu Ewropeaidd, AEA-Europe, ac roedd yn aelod o’r Grŵp Cynghori Galwedigaethol ar gyfer Ofqual, y rheoleiddiwr arholiadau a chymwysterau yn Lloegr. Fe'i disgrifiwyd fel 'ymchwilydd blaenllaw ar e-asesu' gan Bill Tucker, Prif Swyddog Gweithredu'r Sector Addysg, ac fel 'arbenigwr e-asesu' gan bapur newydd The Guardian.
Mae Andrew wedi gweithio i lawer o sefydliadau yn sector addysg y DU, gan gynnwys y rheoleiddiwr arholiadau Ofqual a'i Ragflaenydd QCA. Mae hefyd wedi gweithio i nifer o sefydliadau dyfarnu mawr yn y DU, gan gynnwys Cambridge Assessment a City & Guilds. Mewn rolau o'r fath, mae Andrew wedi cyflawni llawer o gontractau prosiectau ymchwil yn llwyddiannus, gan gynnwys sawl un ar fentrau cenedlaethol mawr.
Dr Cathryn Knight, Aelod
Dr Cathryn Knight, Aelod
Mae Cathryn yn Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Addysg ym Mhrifysgol Bryste. Mae ganddi arbenigedd helaeth mewn dylunio a dadansoddi ymchwil ansoddol a meintiol ac ar hyn o bryd mae’n ymwneud ag amrywiaeth o brosiectau ymchwil wedi’u hariannu’n genedlaethol (e.e. Llywodraeth Cymru) a rhyngwladol (e.e. ERASMUS+). Mae ganddi brofiad ymchwil meintiol uwch, a ddatblygwyd trwy dderbyn Dyfarniad Dulliau Meintiol Uwch gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Mae ei diddordeb ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac addysg gynhwysol, gyda diddordeb arbennig mewn dyslecsia. Mae meysydd eraill o ddiddordeb yn cynnwys addysg athrawon, system addysg Cymru a’r defnydd o ddata eilaidd/gweinyddol mewn ymchwil addysgol.