Ymchwil ac ystadegau
Rydym yn dîm o ymchwilwyr ac ystadegydd sy'n datblygu ac yn cynnal ymchwil ac ystadegau mewn perthynas â chymwysterau a'r system gymwysterau.
Yr hyn a wnawn
Ein nod yw darparu sail dystiolaeth wrthrychol ar gyfer gwneud penderfyniadau rheoleiddio a pholisi am gymwysterau yng Nghymru.
Llywiwn y broses gwneud penderfyniadau drwy ddehongli tystiolaeth drwy:
- Ddylunio, comisiynu a chynnal prosiectau ymchwil
- Cynnal, rheoli neu gynghori ar agweddau ymchwil ar waith Cymwysterau Cymru, gan gynnwys cynllun a chwmpas prosiectau ymchwil, dulliau casglu data a dadansoddi canfyddiadau
- Cefnogi gweithgareddau ymgynghori
- Cynghori ar faterion ystadegol a data
- Casglu a rheoli data
- Llunio a dehongli dadansoddiad ystadegol
- Cyfathrebu canfyddiadau ymchwil a thystiolaeth ystadegol yn effeithiol o fewn Cymwysterau Cymru a gyda chynulleidfaoedd a rhanddeiliaid allanol
Dylech anfon unrhyw ymholiadau ynghylch ystadegau i statistics@qualificationswales.org ac unrhyw ymholiadau ynghylch ymchwil i research@qualificationswales.org.