Monitro cyrff dyfarnu
Anelwn at sicrhau bod ein gweithgareddau monitro yn dryloyw, atebol, cymesur a chyson, ac yn targedu cyrff dyfarnu sy'n peri'r risg fwyaf i'r system gymwysterau yng Nghymru. Defnyddiwn amrywiaeth o dechnegau monitro i fonitro cyrff dyfarnu yn erbyn yr Amodau Cydnabod Safonol, gan gynnwys:
- Cyfarfodydd diweddaru rheoleiddiol
- Datganiad cydymffurfiaeth
- Gweithgareddau monitro dilynol datganiad cydymffurfiaeth
- Archwiliadau rheoleiddiol
Rhown ddigon o rybudd i gyrff dyfarnu o'n gweithgareddau monitro a rhown y wybodaeth baratoadol angenrheidiol. Os byddwn yn nodi diffygion yn achos cyrff dyfarnu unigol, byddwn yn ysgrifennu atynt er mwyn nodi ein pryderon a gofyn iddynt weithredu'n unol â'n polisi 'Cymryd camau pan aiff pethau o chwith'.