Diweddariad ar y cyd gan CCEA Regulations, Cymwysterau Cymru ac Ofqual: Dychwelyd Datganiadau Cydymffurfiaeth 2020
Rydym yn cydnabod bod Sefydliadau Dyfarnu a Sefydliadau Asesiadau Pwynt Terfyn (EPAOs) yn canolbwyntio eu hymdrechion ar reoli heriau sylweddol a chymhleth yn sgil y materion sy’n deillio o Covid-19.
Mewn sawl achos, mae Sefydliadau Dyfarnu ac EPAOs wedi ailddyrannu eu hadnoddau mewnol neu wedi dadflaenoriaethu rhai gweithgareddau er mwyn ymateb i’r heriau hyn.
Rydym yn llwyr werthfawrogi'r ymdrechion y mae'r gymuned reoledig yn eu gwneud wrth i chi weithio gyda ni i ddatblygu ymatebion priodol ac amserol i'r heriau hyn. Ac rydym yn awyddus i leihau unrhyw faich nad yw'n hanfodol arnoch chi ar yr adegau mwyaf heriol hyn. O ganlyniad, byddwn yn atal y gofyniad i Sefydliadau Dyfarnu ac EPAOs gyflwyno eu Datganiad Cydymffurfiaeth 2020 llawn nes y rhoddir rhybudd pellach.
Efallai y byddwn yn codi'r ataliad yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac efallai y byddwn yn gofyn ichi ddarparu datganiad byrrach a mwy penodol ar feysydd a fydd yn allweddol i’n gwaith rheoleiddio parhaus. Os byddwn yn penderfynu gwneud hyn, byddwn yn rhoi rhybudd a gwybodaeth ymlaen llaw i chi ynghylch sut i ddychwelyd cyn i ni godi'r ataliad.
Mae safbwynt y tri rheoleiddiwr yn gyson. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
CCEA Rheoleiddiwr: ccearegulation@ccea.org.uk
Cymwysterau Cymru: statementofcompliance@qualificationswales.org
Ofqual: drwy Gysylltu â’r Rheoleiddiwr