Digwyddiadau
Mae amod B3.1 o'r Amodau Cydnabod Safonol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu hysbysu Cymwysterau Cymru yn brydlon pan fydd ganddynt reswm dros gredu bod unrhyw beth wedi digwydd, neu'n debygol o ddigwydd, a allai gael effaith andwyol.
Mathau o ddigwyddiadau
Ceir enghreifftiau o'r mathau o ddigwyddiadau y dylech anfon hysbysiad ar eu cyfer yn Amod B3.2 yma.
Byddem yn disgwyl cael gwybodaeth ynghylch p'un a yw'r digwyddiad wedi effeithio, neu y gallai effeithio, ar ddysgwyr a gaiff eu hasesu yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru. Os nad oes unrhyw ddysgwyr a asesir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru yr effeithir arnynt, neu y gellid effeithio arnynt, yna nid oes angen unrhyw hysbysiad.
Pa fath o wybodaeth y dylid ei rhoi wrth anfon hysbysiad?
Rhowch y wybodaeth ganlynol, naill ai wrth ein hysbysu (os yw ar gael), neu cyn gynted â phosibl wedyn:
- y dyddiad y daethoch yn ymwybodol o’r digwyddiad;
- natur y digwyddiad;
- y cymwysterau yr effeithir arnynt;
- nifer y canolfannau yng Nghymru yr effeithir arnynt;
- nifer y dysgwyr yng Nghymru yr effeithir anynt;
- manylion unrhyw gamau gweithredu cyfredol;
- manylion unrhyw gamau gweithredu a drefnir yn y dfodol, ac amserlen arfaethedig ar eu cyfer;
- cynnig ar gyfer rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda Cymwysterau Cymru.
I ble y dylwn anfon yr hysbysiad?
Dylech anfon eich hysbysiadau i incidents@qualificationswales.org. Gallwch hefyd anfon unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r broses hysbysu am ddigwyddiadau, neu mewn perthynas â digwyddiad penodol, i'r cyfeiriad e-bost uchod.