Cydnabod cyrff dyfarnu
Gall cyrff dyfarnu sy'n cynnig cymwysterau heblaw graddau ddewis cael eu cydnabod gan Cymwysterau Cymru. Os ydych am i ni reoleiddio'ch holl gymwysterau neu rai ohonynt, bydd angen i chi wneud cais i fod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig.
Mae dod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig yn dod â manteision, ond mae'n ymrwymiad sylweddol gan fod yn rhaid i chi allu dangos eich bod yn gallu bodloni ein gofynion rheoliadol yn barhaus.
Ar y pwynt mynediad, bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni ein Meini Prawf Cydnabod Cyffredinol. Os ydych yn dymuno dyfarnu cymwysterau TGAU neu TAG bydd angen i chi hefyd ddangos eich gallu i fodloni'r Meini Prawf Cydnabod ar gyfer Dyfarnu Cymwysterau TGAU / TAG.
Ar ôl eu cydnabod, rhaid i gyrff dyfarnu ddangos cydymffurfiaeth barhaus â'r Amodau Cydnabod Safonol ac unrhyw ofynion rheoliadol perthnasol ychwanegol.
Manteision dod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig:
- mae cydnabyddiaeth yn rhoi hyder i ddefnyddwyr cymwysterau bod gan eich sefydliad y gallu a'r cymhwysedd i ddatblygu a chynnig cymwysterau o ansawdd uchel
- byddech yn gallu ceisio dynodiad neu gymeradwyaeth ar gyfer eich cymwysterau, gan eu gwneud yn gymwys i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr dan 19 oed
- bydd eich cymwysterau'n cael eu rhestru ar gronfa ddata QiW - adnodd pwysig i'r rhai sydd am ddod o hyd i gymhwyster addas
- mae tystysgrifau ar gyfer cymwysterau rheoleiddiedig yn dwyn logo Cymwysterau Cymru
Noder mai dim ond cymwysterau heblaw graddau y mae Cymwysterau Cymru yn eu rheoleiddio ac nid yw'n rheoleiddio cyrsiau hyfforddi na darparwyr hyfforddiant.
Sut i ymgeisio
I holi am gydnabyddiaeth, anfonwch e-bost atom ar: datganiadcydymffurfiaeth@cymwysteraucymru.org
Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym pam yr ydych am gael eich cydnabod gennym ni. Bydd hyn yn helpu i benderfynu a yw cydnabyddiaeth yn addas i chi. I fwrw ymlaen â'ch cais, yna bydd angen i chi wneud cais ffurfiol.
Bydd hyn yn golygu eich bod yn darparu digon o dystiolaeth i ni o'ch gallu i fodloni ein gofynion fel y nodir yn ein Meini Prawf Cydnabod Cyffredinol.
Mae'r cais ffurfiol yn broses ddwy ran:
- Rhan 1: Llenwi’r ffurflen gais ragarweiniol
Yn dilyn ymholiad cychwynnol, gwahoddir ymgeisydd cymwys i lenwi a chyflwyno ffurflen gais ragarweiniol. Bydd y ffurflen hon yn canolbwyntio ar wybodaeth benodol i Gymru a fydd yn cynnwys eich cynllun busnes ar gyfer Cymru a manylion y galw a ragwelir neu'r galw gwirioneddol am eich cymwysterau.
Os ystyrir bod eich cais rhagarweiniol yn ddigonol, cewch eich gwahodd i gwblhau cais cydnabod llawn.
- Rhan 2: Llenwi'r ffurflen gais lawn
Bydd angen i gais llawn ddangos y gallu i fodloni'r Meini Prawf Cydnabod Cyffredinol a'r potensial i gydymffurfio â'n Hamodau Cydnabod Safonol.
Ar ôl cyflwyno'r cais llawn, byddwn yn cynnal gwiriad gweinyddol i sicrhau ei fod yn gyflawn. Unwaith y byddwn yn fodlon bod y cais wedi'i gwblhau, byddwn yn asesu'r cais yn erbyn y Meini Prawf Cydnabod Cyffredinol. Ein nod yw dod i'n penderfyniad o fewn 3 mis i ddechrau ein hadolygiad, ond gallai hyn gymryd hyd at 6 mis pan yn ymdrin â cheisiadau cymhleth neu yn ystod cyfnodau o alw uchel. Unwaith y byddwn wedi cwblhau ein hadolygiad, byddwn yn rhannu’n adborth gyda chi.
Dod â'ch cydnabyddiaeth i ben neu ei diwygio
Os ydych am i ni roi'r gorau i reoleiddio rhai o’ch cymwysterau neu bob un ohonynt, gallwch 'ildio' eich cydnabyddiaeth. Mae ildio yn broses wirfoddol, ffurfiol a rhaid ei wneud yn unol â'r gofynion fel y nodir yn Amod D6 o'n Hamodau Cydnabod Safonol. I ildio'ch cydnabyddiaeth, anfonwch e-bost at datganiadcydymffurfiaeth@cymwysteraucymru.org i drafod eich cynlluniau a'n gofynion.