Cwynion am gyrff dyfarnu
O bryd i'w gilydd, gall fod rheswm gan ddefnyddwyr y system gymwysterau dros gwyno am gorff dyfarnu. Fel arfer, ymdrinnir â'r gŵyn gan y corff dyfarnu heb fod angen tynnu sylw Cymwysterau Cymru ati. Os caiff cwyn am gymhwyster a reoleiddir ei hystyried gan gorff dyfarnu, ond na chaiff ei datrys, yna gallwn ei hystyried.
Mae cwynion yn ffynhonnell wybodaeth bwysig am y system gymwysterau ac rydym yn eu hystyried o ddifrif. Os oes gennych gŵyn am gorff dyfarnu neu gymhwyster rheoleiddiedig, dylech gysylltu â'r corff dyfarnu i ddechrau.
Fodd bynnag, os ydych wedi cwblhau proses gwynion y corff dyfarnu a'ch bod yn dal i deimlo'n anfodlon, dylech dynnu ein sylw at y gŵyn.
Mae ein polisi 'Cwynion am Gyrff Dyfarnu' ar gael isod. Eglura:
- sut i wneud cwyn am gorff dyfarnu;
- pwy all wneud cwyn;
- o dan ba amgylchiadau yr ymdriniwn â chŵyn;
- sut yr ymdriniwn â chŵyn;
- y camau nesaf y gallwch eu cymryd os na fyddwch yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymdrin â'ch cwyn.