QiW
Mae Cymwysterau yng Nghymru (QiW) yn gronfa ddata y mae Cymwysterau Cymru yn berchen arni ac yn ei rheoli. Mae holl gymwysterau cyrff dyfarnu a gydnabyddir yng Nghymru – ac eithrio'r cymwysterau hynny y mae eu cydnabyddiaeth wedi'i hildio – yn cael eu rheoleiddio. Fodd bynnag, dim ond y rhai a gymeradwywyd neu a ddynodwyd ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed, ac eithrio dysgwyr mewn addysg uwch, a gaiff eu cofnodi yn QiW.
Beth yw QiW?
Ceir trosolwg o beth rydym yn ei wneud a’r cymwysterau rydym yn eu rheoleiddio yn y diagram hwn.
Cyrff Dyfarnu Cydnabyddedig
Rhaid bodloni'r meini prawf ar gyfer cydnabod corff. Fe'u rheoleiddir o dan yr Amodau Cydnabod Safonol.
QiW
Cronfa ddata o gymwysterau cymeradwy a dynodedig y mae dysgwyr o dan 19 oed yng Nghymru, ac eithrio dysgwyr mewn addysg uwch, yn astudio ar eu cyfer.
Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig
Dim ond nifer gyfyngedig o ffurfiau (neu fersiynau) a gaiff eu cymeradwyo. Yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf cymeradwyo. Ar y Rhestr o Gymwysterau Blaenoriaethol. Wedi'u dewis o gymwysterau sy'n bodoli eisoes neu gymwysterau a gomisiynwyd gan Cymwysterau Cymru drwy gystadleuaeth agored, teg a thryloyw.
Cymwysterau Rheoleiddiedig Eraill
Yr holl gymwysterau nad ydynt yn raddau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig (oni ildiwyd eu cydnabyddiaeth). Fe'u rheoleiddir o dan yr Amodau Cydnabod Safonol.
Cymwysterau Dynodedig
Wedi'u dynodi'n gymwys i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed. Rhaid bodloni'r meini prawf ar gyfer dynodi. Fe'u rheoleiddir o dan yr Amodau Cydnabod Safonol.
Ein Rheolau i wneud cais i ddynodi cymwysterau ar gael yma. Ein polisi dynodi ar gael yma.
Cymwysterau Cymeradwy
Yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf cymeradwyo. Yn debygol o fod ar y Rhestr o Gymwysterau Blaenoriaethol. Fe'u rheoleiddir o dan yr Amodau Cydnabod Safonol ac unrhyw amodau cymeradwyo sy'n berthnasol.
Bydd unrhyw gymwysterau a gaiff eu cymeradwyo neu eu dynodi gan Cymwysterau Cymru yn gymwys i gael arian gan Awdurdod Lleol neu Lywodraeth Cymru. Nodwch fod yr arian hwn ar gyfer y darparwr addysg, yn hytrach na'r dysgwr.
Mae'r wybodaeth a gedwir yn QiW yn cynnwys:
- teitlau cymwysterau
- rhifau cymwysterau
- y Corff Dyfarnu sy'n dyfarnu pob cymhwyster
- dyddiadau dechrau a gorffen y cymhwyster
- dolenni i wybodaeth bellach am gymwysterau
- gwybodaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwybodaeth sy'n cadarnhau a yw'r cymhwyster yn cyfrif fel dewis ar gyfer Llwybrau Dysgu 14-19, a gwybodaeth am fesurau perfformiad.
Data Llywodraeth Cymru ar QiW
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisi ar fesur perfformiad ysgolion ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu gwerthoedd cyfraniadol cymwysterau, pwyntiau perfformiad a chodau diystyru a gymhwysir i gymwysterau unigol. Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal y wybodaeth o fewn QiW. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut mae cymwysterau yn cyfrannu at fesurau perfformiad, gan gynnwys gwerthoedd cywerth TGAU/Safon Uwch, pwyntiau perfformiad neu godau diystyru, cysylltwch ar ims@gov.wales
Canllawiau i Gyrff Dyfarnu
Canllawiau i Ganolfannau a Defnyddwyr Cyhoeddus
Nid oes angen cyfrif ar ganolfannau i ddefnyddio QiW, ond gallant chwilio, lawrlwytho ac argraffu canlyniadau gan ddefnyddio'r swyddogaeth chwilio o fewn QiW. Yr unig bobl y mae angen cyfrif arnynt i ddefnyddio QiW yw staff Cymwysterau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyrff Dyfarnu sydd am gyflwyno cymwysterau i QiW. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen help yn y gornel dde uchaf yn hafan QiW www.QiW.cymru.
Swyddogaeth Ffefrynnau
Gall defnyddwyr QiW gadw cymwysterau sydd o ddiddordeb er mwyn cael gafael arnynt yn gyflym drwy'r dudalen "Ffefrynnau". Gall defnyddwyr gofrestru drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost i sicrhau y gallant weld eu ffefrynnau ar unrhyw gyfrifiadur, heb fod angen cyfrinair arnynt. Gweler ein canllawiau isod ar sut i ddefnyddio'r swyddogaeth newydd hon.
QiW Canllaw ar Swyddogaeth Ffefrynnau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os gallwch roi awgrymiadau i ni ar sut i wella'r wefan, anfonwch e-bost at: ymholiadau@cymwysteraucymru.org, a dewiswch QiW yn y gwymplen.
I ymweld â QiW, dilynwch y https://www.qiw.wales / http://www.qiw.cymru