Cymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg
Mae Cymwysterau Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu twf sylweddol yn narpariaeth cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Ein strategaeth
Yn ein strategaeth Dewis i Bawb rydym yn glir taw ein nod yw cynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg ac i gefnogi cyrff dyfarnu i wneud hynny.
Ein polisi
Mae ein Polisi Rheoleiddio Cymwysterau cyfrwng Cymraeg yn amlinellu ein gofynion ar gyrff dyfarnu cydnabyddedig. Yn benodol:
- Rhaid i gymwysterau Cymeradwy fod ar gael i’w hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
- Rhaid i bob corff dyfarnu sicrhau bod eu cymwysterau Dynodedig ar gael i'w hasesu yn Gymraeg o 2027 (neu unrhyw ddyddiad a bennir gennym ni), lle cynigir y rhain i ddysgwyr sy'n cael eu haddysgu ar raglenni dysgu sy'n gymwys i gael cyllid cyhoeddus cyn-16.
- Mae’n ofynnol i gyrff dyfarnu gymryd pob cam resymol i gynyddu argaeledd eu cymwysterau eraill.
Grwpiau Cymorth a Chynghori
Mae gennym Grŵp Cefnogi Cyrff Dyfarnu gyda’r Gymraeg lle rydym yn trafod materion sy'n ymwneud â chymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Os oes diddordeb gyda chi mewn ymuno, ebostiwch polisi@cymwysteraucymru.org
Weithiau, mae cyrff dyfarnu yn ei chael yn anodd recriwtio personél asesu sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Os oes diddordeb gennych mewn dod yn aseswr neu'n gymedrolwr/dilyswr allanol cyfrwng Cymraeg, cysylltwch â'r corff dyfarnu perthnasol neu Cymwysterau Cymru i drafod hyn.
Grantiau Cymorth i'r Gymraeg
Rydym yn cynnig grantiau i gyrff dyfarnu er mwyn helpu i gynnal a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Gall cyrff dyfarnu wneud cais am gymorth ariannol gennym i'w helpu gyda'r gost o fodloni'r galw am gymwysterau a asesir drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn rhoi grant i CBAC er mwyn helpu i gyfieithu papurau asesu byw ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch.