Meini prawf
Mae meini prawf yn ofynion rheoleiddio a wiriwn fel rhan o broses porth diffiniedig, ac maent yn destun cydymffurfiaeth barhaus.
Caiff rhai meini prawf rheoleiddiol eu cymhwyso'n gyffredinol (Meini Prawf Cyffredinol) tra bod eraill yn gymwys i gymwysterau penodol (Meini Prawf Penodol Cymwysterau). Hefyd, gall fod gan rai pynciau ofynion meini prawf pwnc benodol y mae angen glynu wrthynt (Meini Prawf Pwnc Benodol).
Meini Prawf Cyffredinol
Meini Prawf Cydnabod Cyffredinol
Mae'r Meini Prawf Cydnabod Cyffredinol yn nodi'r gofynion y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni cyn y gall ennill cydnabyddiaeth gan Cymwysterau Cymru, o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. Mae'n rhaid i sefydliadau sydd am fod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig fodloni'r meini prawf.
Meini prawf Cymeradwyo ac Amodau Cymeradwyo
Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r meini prawf y mae'n rhaid i gymhwyster eu bodloni cyn y gellir ei gymeradwyo ac yr amodau cymeradwyo.
Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol (PQL)
Mae hon yn rhestr o'r cymwysterau rydym wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar eu cyfer, neu yr ystyrir eu cymeradwyo. Ni chaiff cymwysterau ar y rhestr hon eu cymeradwyo oni fyddant yn bodloni'r meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig. Nid yw statws cymeradwy yn arwydd o bwysigrwydd cymharol unrhyw gymhwyster. Bydd Cymwysterau Cymru yn ystyried cymwysterau nad ydynt ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol os bydd meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig ar eu cyfer. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi blaenoriaeth uwch i gymeradwyo cymwysterau sydd ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol.
Meini Prawf Cymhwyster Benodol
Yn ogystal â'r Meini Prawf Cyffredinol uchod, ceir Meini Prawf Cymhwyster Benodol y gellir eu gweld yn y Rhestr o Ddogfennau Rheoleiddiol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Meini Prawf Cydnabod ar gyfer dyfarnu Cymwysterau TGAU / TAG;
- Ar gyfer TGAU a TAG, mae yna Feini Prawf atodol ar gyfer Dynodi;
- Mae yna Egwyddorion Dylunio ar gyfer cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ac ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
Meini Prawf ar gyfer TGAU a TAU
Ceir meini prawf penodol sy'n gymwys i TGAU a TAU diwygiedig a addysgwyd gyntaf yn ystod neu ar ôl blwyddyn academaidd 2015/16.
Hefyd, mae gan rai pynciau Egwyddorion Pwnc a/neu Feini Prawf Cymeradwyo (yn ogystal â'r Meini Prawf Cyffredinol).
Mae hefyd Feini Prawf ar gyfer TGAU a TAU cyn eu diwygio lle cafodd y cymhwyster ei addysgu gyntaf cyn y flwyddyn academaidd 2015/16.