Grant Cymorth i’r Gymraeg Cystadleuol
Amserlen ar gyfer y Grant Cymorth i’r Gymraeg Cystadleuol
Nodwch, os gwelwch yn dda: Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ar gyfer Grant Cymorth i’r Gymraeg yw dydd Iau 14 Ebrill 2022.
Er ein bod yn annog ymgeiswyr i ystyried a ydynt yn gallu cwblhau'r holl weithgareddau y gwnaed cais amdanynt o fewn blwyddyn ariannol 22/23, byddwn yn ystyried ceisiadau am raglenni gwaith tymor canolig a thymor hwy a allai gynnwys datblygiadau cynyddrannol sy'n mynd y tu hwnt i gylch blwyddyn.
Rydym yn cadw'r hawl i dderbyn ceisiadau y tu allan i'r ffenestr ymgeisio, fodd bynnag bydd hyn yn amodol ar argaeledd cyllid felly rydym yn argymell bod ceisiadau'n cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau.
Os hoffech drafod hyn gyda ni ymhellach, cysylltwch â ni yn grantiau@cymwysteraucymru.org
Cyfnod(au) Hawlio –
Bydd Cymwysterau Cymru’n cytuno ar gyfnodau hawlio ar sail yr amserlen a dderbynnir gan y coff dyfarnu yn ystod y broses ymgeisio. Anogir hawlwyr i gyflwyno hawliadau trwy gydol y flwyddyn ariannol.
Ein blaenoriaeth gyffredinol ar gyfer y Grant Cymorth i’r Gymraeg Cystadleuol yw cefnogi cymwysterau a gynlluniwyd:
- i'w defnyddio gan ddysgwyr 14-19 oed ar raglenni dysgu llawn amser sydd wedi’u hariannu a/neu
- i'w defnyddio ar brentisiaethau a ariennir yn gyhoeddus.
Rydyn ni’n rhagweld y byddwn yn defnyddio'r rhan fwyaf o'r cyllid sydd ar gael ar gyfer cymwysterau sy'n dod o dan y flaenoriaeth gyffredinol hon. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn dod o dan y flaenoriaeth hon.
Yn ein barn ni, mae'n well sicrhau bod cymwysterau ar gael i ddysgwyr yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r adeg y cânt eu haddysgu gyntaf. Mae'r dull hwn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd canolfannau yng Nghymru yn cael eu hannog i fabwysiadu cymwysterau newydd ac i roi cynnig gweithredol a chyfartal i ddysgwyr o'r cychwyn cyntaf. O fewn y Flaenoriaeth Gyffredinol, byddwn felly yn rhoi blaenoriaeth ychwanegol i geisiadau yn y drefn ganlynol:
- Categori 1: Cymwysterau newydd sydd wedi'u cynllunio i'w haddysgu gyntaf o fis Medi 2022 neu 2023 (gall y rhain ddisodli'r cymwysterau presennol neu beidio) a/neu gymwysterau a nodwyd fel blaenoriaeth gan weithgareddau Cymwysterau Cymru.
- Categori 2: Cymwysterau sy'n cael eu diweddaru i'w haddysgu o fis Medi 2022 neu 2023.
- Categori 3: Cymwysterau sydd wedi cael eu diweddaru neu eu hadolygu'n ddiweddar.
- Categori 4: Cymwysterau hŷn a/neu gymwysterau sy’n tynnu tua therfyn eu cylch oes.
Noder: Rhaid i'r dyddiad gorffen gweithredol cymwysterau fod dair blynedd ar ôl dyfarnu cyllid grant. Os yw cyrff dyfarnu am wneud cais am gyllid ar gyfer cymwysterau sy'n perthyn i fwy nag un o’r categorïau uchod, mae arnom angen ffurflen gais ar wahân ar gyfer pob categori. Rydym hefyd angen cais ar wahân am gymwysterau sydd y tu allan i’r Flaenoriaeth Gyffredinol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio am grantiau, cysylltwch â grantiau@cymwysteraucymru.org.
Llythyr at bob Swyddog Cyfrifol ynghylch y Grant Cymorth i’r Gymraeg
Cais ar gyfer Grant Cymorth i’r Gymraeg: Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol 2022-23
Cymorth Iaith Gymraeg 2023_Gwybodaeth Ychwanegol