Gaeaf 2017/18
Canlyniadau: TGAU Saesneg Iaith, TGAU Cymraeg Iaith, TGAU Mathemateg - Rhifedd a TGAU Mathemateg
Cymwysterau Cymru yw'r corff annibynnol sy'n rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru. Un o'n prif weithgareddau yw goruchwylio'r gwaith o ddyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru.
Mae canlyniadau TGAU heddiw yn ymwneud â chymwysterau a gafodd eu diwygio i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2015. Dyfarnwyd TGAU Saesneg Iaith a TGAU Cymraeg Iaith am y tro cyntaf yn haf 2017 a dim ond dysgwyr a oedd wedi sefyll yr arholiadau yn yr haf oedd yn cael y cyfle i ailsefyll yn y gyfres hon. Y gyfres hon oedd y trydydd cyfle i ddysgwyr sefyll TGAU Mathemateg – Rhifedd a TGAU Mathemateg.
Ar 15 Tachwedd 2017, gwnaethom anfon llythyr i bob ysgol a choleg yn nodi ein dull o ddyfarnu cyfres mis Tachwedd. Rydym wedi monitro'n agos ddyfarniad y cymwysterau hyn ac rydym yn fodlon bod y ffiniau gradd a bennwyd gan CBAC yn briodol a bod safon TGAU wedi cael ei chynnal.
Cofrestriadau
Gwnaethom gyhoeddi'r data mynediad ar gyfer y gyfres ddiwedd mis Tachwedd a amlygodd y pwyntiau canlynol:
- Roedd 54,845 o gofrestriadau TGAU yng Nghymru ym mis Tachwedd 2017, sydd 4.5 y cant yn llai na mis Tachwedd 2016.
- Lleihaodd nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Mathemateg ddiwygiedig ym mis Tachwedd 2017 1.7 y cant o gymharu â mis Tachwedd 2016. Gwelwyd mwy o leihad o 32.4 y cant ar gyfer TGAU Mathemateg - Rhifedd ddiwygiedig.
Cofrestriadau ym mis Tachwedd ar gyfer TGAU diwygiedig yn 2016 a 2017 (i bob dysgwr)
Pwnc |
Tachwedd 2016 |
Tachwedd 2017 |
TGAU Mathemateg – Rhifedd |
29,205 |
19,730 |
TGAU Mathemateg |
23,070 |
22,670 |
TGAU Saesneg Iaith |
dd/g |
11,870 |
TGAU Cymraeg Iaith |
dd/g |
505 |
Canlyniadau mis Tachwedd 2017 (canrannau cronnol, i bob dysgwr)
Pwnc |
A* |
A*/A |
A*-C |
A*-G |
TGAU Mathemateg - Rhifedd |
4.2 |
11.1 |
48.5 |
91.5 |
TGAU Mathemateg |
5.3 |
10.6 |
45.9 |
91.6 |
TGAU Saesneg Iaith |
0.4 |
3.3 |
47.8 |
99.0 |
TGAU Cymraeg Iaith |
0.8 |
7.8 |
52.0 |
99.4 |
Canlyniadau mis Tachwedd 2016 (canrannau cronnol, i bob dysgwr)
Pwnc |
A* |
A*/A |
A*-C |
A*-G |
TGAU Mathemateg - Rhifedd |
5.7 |
12.5 |
46.6 |
88.6 |
TGAU Mathemateg |
5.9 |
10.0 |
46.4 |
91.3 |
Yn gyffredinol, mae'r newidiadau i'r cofrestriadau ar gyfer TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg – Rhifedd y mis Tachwedd hwn o gymharu â mis Tachwedd 2016 yn ei gwneud hi'n anodd cymharu'r ddwy set o ganlyniadau'n ystyrlon. Mae gan bob cyfres o arholiadau gohort gwahanol o fyfyrwyr, gyda phroffil gallu gwahanol, sy’n sefyll yr arholiadau. Mae nifer y myfyrwyr sy’n sefyll TGAU Mathemateg-Rhifedd, yn enwedig, wedi newid yn sylweddol y mis Tachwedd hwn, o gymharu â mis Tachwedd 2016. Hefyd, roedd rhai myfyrwyr yn ailsefyll eu TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd y mis Tachwedd hwn, tra ym mis Tachwedd 2016 roedd pob un o’r myfyrwyr a gofrestrwyd yn sefyll yr arholiad am y tro cyntaf. Mae’r broses ddyfarnu, lle caiff ffiniau gradd eu gosod, yn sicrhau bod y ffactorau hyn yn cael eu hystyried.
Nid oes cyfres arholiadau flaenorol i gymharu canlyniadau ailsefyll TGAU Saesneg Iaith a TGAU Cymraeg Iaith diwygiedig.
Ceir crynodeb manwl o'r canlyniadau ar wefan CBAC.