Haf 2020
Trosolwg o’r canlyniadau
Un o'n prif weithgareddau fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru yw goruchwylio'r gwaith o ddyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru. Yn yr adran hon, gallwch ddarllen adroddiadau trosolwg o’r canlyniadau haf 2020.
Ni chynhaliwyd unrhyw arholiadau eleni oherwydd pandemig Covid-19, felly mae'r graddau wedi'u cyfrif a'u dyfarnu yn unol â phroses a gymeradwywyd gennym ni.
Rydym wedi adeiladu rhan o’n gwefan i egluro’n fanwl sut y cafodd y graddau eu cyfrif eleni.
Canlyniadau
Trosolwg
Data ganlyniadau
Wrth i ganlyniadau’r haf hwn gael eu cyhoeddi, bydd dysgwyr a rhieni yn chwilio am gyngor ac yn gwneud penderfyniadau ar y camau nesaf.
Rydym wedi cynhyrchu graffig yn dangos yr opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr, o addysg ôl-16 trwy brentisiaethau a phrifysgol. Rydym hefyd wedi cynyrchu Pecyn Gwybodaeth ar gyfer canlyniadau’r haf hwn.Isod fe welwch wybodaeth ar sut i gyflwyno apêl trwy'ch ysgol neu goleg os ydych chi'n anhapus â'ch gradd, ynghyd â dolenni i'ch helpu chi i olrhain eich cwrs yn y dyfodol trwy addysg a chyflogaeth.