Canllaw i Oruchwylio Arholiadau
Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, ein nod yw diogelu dysgwyr a magu hyder y cyhoedd. Mae arholiadau yn ddarn pwysig o'r jig-so cymwysterau a rhaid i ganolfannau ddarparu'r hyfforddiant cywir ar gyfer goruchwylwyr.
Rydym wedi creu chwe ffilm arweiniad byr ac adnoddau ategol, sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo swyddogion arholiadau yng Nghymru wrth hyfforddi goruchwylwyr.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Gall swyddogion arholiadau gael mynediad at yr adnoddau cefnogi ar Borth Swyddogion Arholiadau Cymru (WEOP). Mae'r adnoddau wedi'u datblygu i'w defnyddio ochr yn ochr â'r ffilmiau ac ar y cyd â dogfennaeth y JCQ a gwybodaeth benodol i ganolfannau, er mwyn sicrhau bod canolfannau yn bodloni meini prawf arolygu’r JCQ.
Mae dogfen ganllaw ar gael i gefnogi swyddogion arholiadau gyda 'Beth, Pam a Sut' i ddefnyddio'r adnoddau a'r ffilmiau.
Rhagor o gymorth a chefnogaeth
Gellir dod o hyd i ganllawiau a manylion am y rheolau a'r rheoliadau ar wefan JCQ.
I gysylltu â'n Tîm Cysylltiadau Allanol
Annie Allitt- annie.allitt@qualificationswales.org (Gogledd/Canolbarth Cymru)
07464 543 621 neu 01633 373 299
Penny Evans-penny.evans@qualificationswales.org (De-ddwyrain Cymru)
07464 543 641 neu 01633 373248
Arron Watkins- arron.watkins@qualificationswales.org (De-orllewin Cymru)
07464 543 631 neu 01633 373 247