Grwpiau Dysgwyr
Gwnewch gais heddiw: Grŵp Dysgwyr Galwedigaethol/Seiliedig ar Waith Newydd
Rydym yn sefydlu Grŵp Dysgwyr Galwedigaethol/Seiliedig ar Waith a fydd yn ein helpu i siarad â dysgwyr a deall yr heriau sy'n wynebu dysgwyr cyrsiau seiliedig ar waith neu ddysgwyr sy'n astudio cymwysterau galwedigaethol.
Dylai'r Aelodau fod:
- oedran 16+
- yn dilyn cyrsiau dysgu seiliedig ar waith (hyfforddeiaeth/prentisiaeth) neu’n astudio cymwysterau galwedigaethol
- o wahanol fathau o gefndiroedd a lleoliadau addysg (fel colegau ac amgylcheddau dysgu seiliedig ar waith) ac yn cynnwys gwahanol fathau o ddysgwyr (fel dysgwyr cyfrwng Cymraeg a'r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol).
Gweler isod:
- Rhagor o wybodaeth
- Ffurflen mynegi diddordeb i'w llenwi a'i dychwelyd erbyn y dyddiad cau
- Ffurflen monitro
Dyddiad cau: 26 Medi 2021
Grŵp Cynghori i Ddysgwyr
Mae ein Grŵp Cynghori i Ddysgwyr yn cynnwys 18 aelod ac fe’i sefydlwyd i helpu i ddylanwadu ar gymwysterau yn y dyfodol.
Mae ein haelodau yn grŵp ysbrydoledig o bobl ifanc sydd ag ystod amrywiol ac eang o brofiadau. Mae'r grŵp yn rhoi cyfle i Cymwysterau Cymru gymryd rhan mewn sgwrs uniongyrchol â dysgwyr ac i gael deialog ddwy ffordd ar y cynnig cymwysterau a'r dylanwadau.
Newyddion Diweddaraf
Ddydd Iau 15 Gorffennaf 2021, cyfarfu'r grŵp â Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Rhoddodd y Gweinidog amlinelliad i'r aelodau o'i gynlluniau ar gyfer addysg a chymwysterau. Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau ryngweithio â'r Gweinidog mewn sesiwn holi ac ateb ddiddorol.
Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ddydd Mawrth, 14 Medi 2021.