Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflenwi
Grŵp o benaethiaid ac arweinwyr colegau yw aelodau’r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni.
Mae’r Grŵp Dylunio a Chyflawni wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn adolygiad annibynnol o ddyfarnu cymwysterau yn haf 2020. Ei rôl yw datblygu cynigion ymarferol i gyflawni polisi'r Gweinidog Addysg ar gymwysterau yn 2021.
Mae Cymwysterau Cymru yn eistedd fel arsylwyr y grŵp hwn, ochr yn ochr â CBAC, gan roi cyngor ac arweiniad.
Adolygiad annibynnol
Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol i adrodd ar ddyfarnu cymwysterau yn haf 2020 a arweiniodd at greu'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni.