Adolygiad annibynnol
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol i adrodd ar ddyfarnu cymwysterau yn haf 2020. Yn yr adran hon byddwn yn darparu diweddariadau o'r adolygiad hwnnw.
Rydym wedi bod yn dryloyw drwy gydol ein gwaith wrth i ni ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â COVID-19 ac rydym yn cefnogi gwaith yr adolygiad annibynnol. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio'n ddiwyd ar ddatblygu a chytuno ar y trefniadau ar gyfer dyfarnu cymwysterau yn 2021.