Technoleg Ddigidol: Datblygu Cymwysterau
Ym mis Rhagfyr 2018, gwnaethom gyhoeddi Digidol i’r Dyfodol, ein hadolygiad o gymwysterau a'r system gymwysterau yn y sector technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Roedd yr adolygiad yn gosod cyfres o gamau gweithredu tymor byr a thymor hwy gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r materion a nodwyd. Roedd y rhain yn cynnwys gwahodd cyrff dyfarnu i ddatblygu dau gymhwyster newydd mewn Technoleg Ddigidol, cymhwyster TGAU a chymhwyster TAG UG/Safon Uwch, i fod ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2021 a mis Medi 2022 yn y drefn honno.
Mae'r tabl isod yn dangos manylion y camau gweithredu a'r cerrig milltir allweddol yn ein gwaith i ddatblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn a chefnogi eu gweithredu. I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cerrig milltir, cliciwch ar y ddolen gysylltiedig.
Carreg filltir |
Disgrifiad |
Dyddiad |
Dolen |
Cyhoeddi Digidol i’r Dyfodol |
Cyhoeddi ein hadolygiad o gymwysterau a'r system gymwysterau yn y sector TGCh. |
Rhagfyr 2018 |
|
Diwrnodau Datblygu ar gyfer TGAU a TAG UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol |
Ym mis Mawrth 2019, gwnaethom gynnal cyfres o Ddiwrnodau Datblygu mewn lleoliadau ledled Cymru i athrawon a darlithwyr addysg bellach eu mynychu a rhannu eu syniadau ar gyfer y cymhwyster newydd. |
Mawrth 2019 |
|
Datblygu Meini Prawf Cymeradwyo TGAU Technoleg Ddigidol |
Ym mis Hydref 2019, cyhoeddwyd meini prawf cymeradwyo drafft ar gyfer TGAU Technoleg Ddigidol a gwahoddwyd rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn arolwg adborth. |
Hydref 2019 |
|
Cyhoeddi Meini Prawf Cymeradwyo TGAU Technoleg Ddigidol |
Yn dilyn ein harolwg, gwnaed nifer o newidiadau i'r ddogfen meini prawf cymeradwyo mewn ymateb i'r adborth. Cyhoeddwyd y meini prawf cymeradwyo terfynol ym mis Mai 2020 ochr yn ochr â dogfen naratif yn esbonio sut y cawsant eu datblygu. |
Mai 2020 |
|
Manyleb Technoleg Ddigidol TGAU wedi'i chyhoeddi gan CBAC |
Mewn ymateb i'n meini prawf cymeradwyo, datblygodd CBAC fanyleb ar gyfer TGAU Technoleg Ddigidol. Yn dilyn ei gymeradwyaeth gan Cymwysterau Cymru cyhoeddwyd y ddogfen hon ar wefan CBAC, gyda'r cymhwyster yn cael ei addysgu gyntaf ym mis Medi 2021. |
Medi 2020 |
|
Arolwg ar dasgau ymarferol yng nghymwysterau TAG UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol |
Fel rhan o waith datblygu ar gyfer Technoleg Ddigidol UG/Safon Uwch, gwahoddwyd rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn arolwg i gasglu eu barn ar y tasgau ymarferol a ddylai fod ar gael i ddysgwyr sy'n ymgymryd â'r cymhwyster. |
Mehefin/Gorffennaf 2020 |
|
Datblygu Meini Prawf Cymeradwyo Technoleg Ddigidol TAG UG/Safon Uwch |
Ym mis Hydref 2020, cynhaliwyd dau weminar gennym lle gwnaethom grynhoi ein cynigion ar gyfer Technoleg Ddigidol UG/Safon Uwch a chynnal sesiwn holi ac ateb. Cynhaliwyd arolwg adborth gennym hefyd, lle gwahoddwyd rhanddeiliaid i rannu eu barn ar ein cynigion. |
Hydref 2020 |
|
Cyhoeddi Meini Prawf Cymeradwyo UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol |
Mewn ymateb i'r adborth a gafwyd drwy ein gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwnaethom fireinio'r ddogfen meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn. Cyhoeddwyd y meini prawf hyn ym mis Mai 2021 ochr yn ochr ag amlinelliad o'n dull o’u datblygu. |
Mai 2021 | Dolen |
|
Mewn ymateb i'n meini prawf cymeradwyo, datblygodd CBAC fanyleb ar gyfer UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol. Yn dilyn ei gymeradwyo gan Cymwysterau Cymru cyhoeddwyd y ddogfen hon ar wefan CBAC, gyda'r cymhwyster yn cael ei addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2022. |
Medi 2021 |
Dolen |