Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Ym mis Gorffennaf 2016 cyhoeddodd Cymwysterau Cymru yr Adolygiad Sector o Gymwysterau a'r System Gymwysterau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan gynnwys gofal plant a gwaith chwarae.
Mae cymwysterau newydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael eu cyflwyno yn dilyn ein hadolygiad o'r sector cyflogaeth pwysig hwn.
Amlinellodd yr adolygiad nifer o gamau gweithredu y gwnaethom ymrwymo iddynt, gan gynnwys datblygu cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant i Gymru a fydd yn disodli mwy na 200 o gymwysterau sy'n gymwys i gael cyllid ar raglenni dysgu a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol ar hyn o bryd.
O fis Medi 2019, dyma'r cymwysterau a fydd ar gael i'w darparu mewn ysgolion, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith a'r rhain fydd y cymwysterau sy'n ymddangos mewn fframweithiau prentisiaeth i ddysgwyr o bob oedran sy'n cyflawni prentisiaethau perthnasol.
Bydd cyfnod pontio hefyd i alluogi dysgwyr sydd eisoes yn cyflawni cymwysterau i gael eu hariannu i gwblhau eu cymwysterau.
Consortiwm o City & Guilds London Institute a CBAC yw ein partner cyrff dyfarnu a fydd yn darparu'r contractau hyn. Mae'r consortiwm hwn yn dwyn ynghyd arbenigedd mewn datblygu cymwysterau, cynllunio a darparu asesiadau o safbwynt cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.
Bydd y bartneriaeth hon yn sicrhau y caiff cymwysterau ac asesiadau eu darparu yn nwy iaith swyddogol Cymru yn gyfartal ynghyd â strategaeth rheoli newid gref i gefnogi'r system gymwysterau gyda hyfforddiant, cymorth ac adnoddau effeithiol.
Yr ydym yn cydweithio'n agos â'r consortiwm, ynghyd â'n partneriaid cydweithredol; Gofal Cymdeithasol Cymru a Gwasanaeth Gweithlu, Addysg a Datblygiad y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yng Nghymru, i sicrhau bod y sector wrthi'n datblygu'r cymwysterau hyn a bod y sector a'r cyhoedd yn ehangach yn derbyn gwybodaeth sy'n ddefnyddiol ac yn amserol. Mae meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig ar gyfer y cymwysterau newydd i'w gweld yma.
|
|
|
|
|
|
|
||
Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant – Cwestiynau Cyffredin
Mae'n bosibl eich bod wedi clywed am y newidiadau sy'n cael eu gwneud i gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Nghymru. Gobeithio y bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn eich helpu i ddeall y newidiadau a'r effaith y bydd y newidiadau'n eu cael ar ddarparwyr dysgu, dysgwyr a gweithlu'r sector.