Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Mae Cymwysterau Cymru bellach wedi cyhoeddi ei adolygiad o gymwysterau a’r system gymwysterau yn y sector Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Mae hyn wedi bod yn adolygiad sylweddol, a fu’n cynnwys ymchwil helaeth ledled Cymru. Mae’r adolygiad wedi cynnwys:
- ymgysylltu manwl â rhanddeiliaid;
- ymgysylltu â dysgwyr;
- arolwg ar-lein;
- astudiaeth gymharu ryngwladol; ac
- adolygiad technegol o gymwysterau.
Mae’r adroddiad, ‘Digidol i’r Dyfodol’, yn amlinellu ein canfyddiadau a’r camau gweithredu byddwn yn eu cymryd. Dyma rai o’r canfyddiadau allweddol:
- mae llawer o’r cymwysterau yn y sector yn hen ffasiwn, nid ydynt yn cynnwys topigau digidol datblygol, ac nid ydynt yn gyfredol â datblygiadau mewn technoleg;
- mae’r gofynion ar ddysgwyr i gasglu tystiolaeth ysgrifenedig a chipluniau fel tystiolaeth ar gyfer tasgau ymarferol yn cymryd amser ac yn anniddorol;
- yn y cymwysterau a adolygwyd gennym, roedd ychydig o enghreifftiau o dystiolaeth asesu a ddarpariwyd gan gyrff dyfarnu wedi’u hasesu’n anghywir a neu’n anghyson;
- mae’r pwnc yn aml yn cael ei addysgu gan athrawon nad ydynt yn arbenigwyr ac nid ydynt yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau na’r profiad technegol i addysgu’r pwnc yn effeithiol;
- roedd athrawon yn pryderu nad ydynt yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant na’r datblygiad proffesiynol parhaus sydd eu hangen i ddod i wybod am y datblygiadau diweddar mewn technoleg; ac
- mae caledwedd a meddalwedd hen ffasiwn gan ddarparwyr dysgu, sefyllfa sydd wedi’i gwaethygu oherwydd y cyllid cyfyngedig i fuddsoddi yn yr adnoddau hyn, yn her sylweddol wrth addysgu ac asesu cymwysterau technoleg gwybodaeth a digidol.
Mae adroddiad ‘Digidol i’r Dyfodol' yn argymell y dylid gwneud y canlynol:
- datblygu cymwysterau Technoleg Ddigidol TGAU a Safon Uwch newydd;
- sicrhau bod y cymwysterau newydd a ddatblygir i'w defnyddio yn y lefelau T Llwybr Digidol yn Lloegr ar gael i ddysgwyr yng Nghymru;
- adolygu unrhyw gymwysterau sy'n gysylltiedig â TGCh a gyflwynwyd gan gyrff dyfarnu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn berthnasol;
- monitro cymwysterau TGCh galwedigaethol newydd a ddefnyddir mewn fframweithiau prentisiaeth.
Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad llawn yma.