Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Medi 2015 - Adolygiad o'r Sector
Rhwng mis Medi 2015 a mis Mawrth 2016, gwnaeth Cymwysterau Cymru gynnal rhaglen cyfathrebu ac ymgynghori helaeth, gan gynnwys cyfweliadau a thrafodaethau gyda chyrff sector, darparwyr dysgu, cyflogwyr a dysgwyr, gan ofyn am eu sylwadau ar effeithiolrwydd y cymwysterau presennol a'r system gymwysterau yng Nghymru, a'u holi am fylchau ynddynt.
Cynhaliwyd dros 125 o gyfarfodydd gwahanol. Hefyd, cawsom dros 200 o ymatebion i'n hymgynghoriad ar-lein, a chlywsom farn mwy na 800 o ddysgwyr.
Gwnaethom gynnal dadansoddiad manwl o'r deg cymhwyster mwyaf poblogaidd a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr yng Nghymru yn y sector hwn. Diben y dadansoddiad hwn oedd edrych ar fformat yr asesiadau, y systemau sicrhau ansawdd, y dystiolaeth roedd y dysgwyr yn ei darparu a'r ffordd yr oedd penderfyniadau asesu yn cael eu gwneud.
Gorffennaf 2016 - Adroddiad ar yr Adolygiad
Ym mis Gorffennaf 2016, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar ein canfyddiadau a'n dyfarniadau ynghylch effeithiolrwydd y cymwysterau presennol, a'r system gymwysterau, ar gyfer y sector yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o gynigion, gan gynnwys:
- Datblygu cyfres newydd o gymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru i leihau cymhlethdod a chodi ansawdd, ac wrth wneud hynny:
- Datblygu dulliau cyfannol a chreadigol o asesu cymhwysedd dysgwyr wrth iddynt ymgymryd â chymwysterau;
- Darparu cyflwyniad i amrywiaeth eang o rolau yn y sector drwy ledu cwmpas y cymwysterau sydd ar gael i ddisgyblion rhwng 14 ac 16 oed;
- Lleihau achosion o ddyblygu ac ailadrodd rhwng cymwysterau ar lefelau gwahanol;
- Cymhwyso trefniadau sicrhau ansawdd yn gyson ac yn gadarn ledled Cymru;
- Sicrhau bod pob agwedd ar y cymwysterau newydd ar gael yn ddwyieithog;
- Cynyddu cynnwys pynciau allweddol, megis gofal dementia i'r rheini sy'n gweithio gyda phobl hŷn, neu chwarae i'r rheini sy'n darparu gofal plant.
- Gweithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth glir ar gael am rolau a chyfrifoldebau gwahanol pob corff o ran cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Medi 2016 - Ymgynghoriad
Yn dilyn yr adolygiad, gwnaethom lansio ymarfer ymgynghori i geisio barn ar gynigion i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau, gan gynnwys y posibilrwydd o gyfyngu pob cymhwyster newydd i ddim ond un fersiwn i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir gan arian cyhoeddus yng Nghymru.
Cafodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2016, ac maent ar gael yma.
Tachwedd 2016 - Cyhoeddi cynnig i gyfyngu ar gymwysterau
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, gwnaethom gyhoeddi ein bwriad i gyfyngu ar nifer o ddisgrifiadau o gymwysterau yn ymwneud ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
Mae'r rhain ar gael yn ein Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol (PQL) yma.
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu'r cymwysterau newydd ewch i'r tudalennau am ddatblygu cymwysterau galwedigaethol.