Adolygiad o’r Sector Peirianneg, Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni
Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal adolygiad o gymwysterau a'r system gymwysterau yn y sector Peirianneg, Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni yng Nghymru.
Roedd yr Adolygiad yn helaeth ac yn cynnwys cyfweliadau manwl gyda thros 100 o randdeiliaid, trafodaethau â ffocws gyda thros 350 o ddysgwyr, adolygiad technegol o gymwysterau, astudiaeth gymharu ryngwladol ac arolwg ar-lein. Roedd y wybodaeth a'r dystiolaeth o’r holl elfennau hyn o’r Adolygiad yn sail i'r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad.
Cliciwch ar y fideos isod i glywed safbwyntiau rhai o'r bobl a gymerodd ran yn yr Adolygiad.
David Jones OBE DL, Cadeirydd Cymwysterau Cymru
Joanne Daniels, Newport Wafer Fab
Nick Tyson, Coleg Cambria
Salah Berdouk, Grŵp Llandrillo Menai
John Nash, TSW
John Phelps, Cynghorydd Sector
Dave Cranmer, Cynghorydd Sector
Gweminar
Cynhaliwyd gweminar i roi trosolwg o ganfyddiadau ein hadolygiad. Isod, ceir recordiad o'r gweminar a’r cyflwyniad.
Recordiad o’r gweminar ar 21 Hydref 2020