Adolygiad Sector Cam 2
Adolygiadau sector yw asgwrn cefn ein gwaith gyda chymwysterau galwedigaethol, gan ein galluogi i ganolbwyntio ar gymwysterau o fewn sectorau cyflogaeth penodol. Mae'r adolygiadau sector a gwblhawyd hyd yma wedi amlygu rhai themâu trawsbynciol, a defnyddir y rhain fel ffocws ar gyfer adolygiadau sector cam 2.
Mae adolygiadau sector cam 2 yn fyrrach (gan bara tua 9-12 mis) ac yn canolbwyntio ar y canlynol:
- asesu’r ddarpariaeth gyfredol a’r ddapariaeth debygol yn y dyfodol o gymwysterau i’w defnyddio mewn cyrsiau addysg bellach ôl-16, ysgolion chweched dosbarth a phrentisiaethau mewn meysydd sector allweddol;
- nodi'r angen am gymwysterau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg a chynyddu’r ddarpariaeth.
Amserlen arfaethedig y sectorau
Meysydd Sector |
Dyddiad dros dro ar gyfer Dechrau'r Adolygiad |
Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus |
Medi 2020 |
Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid |
Mehefin 2021 |
Busnes, Gweinyddu a Manwerthu (Y Gyfraith a Chyfrifyddiaeth) |
Gwanwyn 2022 |
Celf, y Creadigol a’r Cyfryngau |
Haf 2023 |
Gwallt a Harddwch |
2024 |