Dywedwch wrthym beth yw eich barn am gymwysterau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu newydd yng Nghymru
Mae Cymwysterau Cymru yn gwahodd dysgwyr, athrawon ac aseswyr i rannu eu barn am gymwysterau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu newydd yng Nghymru.
Rydym yn cynnal holiaduron byr ar-lein ar gyfer dysgwyr a chanolfannau ar y cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 newydd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu i Gymru, gan gynnwys:
- Cymwysterau Lefel 2 i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2021
- Cymwysterau prentisiaeth Lefel 3 i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2022.
Mae'r holiaduron ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dylent gymryd tua phum munud i'w cwblhau ac maent yn hollol ddienw.
Mae eich barn yn bwysig iawn i ni, a bydd yr adborth a roddwch yn helpu i lywio ein gwaith o fonitro'r cymwysterau hyn.
Diolch am gymryd rhan.
Holiadur Canolfan ar gymwysterau lefel 2
Holiadur Dysgwyr ar gymwysterau lefel 2
Holiadur Canolfan ar gymwysterau prentisiaeth lefel 3
Holiadur Dysgwyr ar gymwysterau prentisiaeth lefel 3