Rhagor o Wybodaeth ac Adnoddau
Cyrff dyfarnu
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu darparu gan un o'r cyrff dyfarnu canlynol.
Mae modd dod o hyd i adnoddau ar gyfer dy gymhwyster di drwy glicio ar enwau'r corff dyfarnu uchod a fydd yn mynd â ti i'w gwefan.
Egwyddorion Dylunio
Mae'r Egwyddorion Dylunio yn amlinellu'r rhesymeg, y strwythur, y nodau, y deilliannau dysgu a'r gofynion asesu ar gyfer cyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Mae modd dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o'r Egwyddorion Dylunio yma.
Rhagor o Adnoddau:
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST)
Datblygu eich tasgau eich hun
Cyhoeddwyd y canllaw hwn ym mis Ionawr 2019 gyda'r nod o gynorthwyo canolfannau sy'n cyflwyno ac yn asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol i ddatblygu, a chyflwyno i'w cymeradwyo, eu tasgau rheoledig a'u cynlluniau marcio canolfan-benodol eu hunain. Nod y ddogfen ganllaw yw arwain canolfannau trwy'r prosesau datblygu, cymeradwyo a defnyddio cychwynnol.
Gellir gweld y canllawiau yma.