Adolygiad o Sgiliau Hanfodol Cymru
Rydyn ni bellach wedi dechrau ein hadolygiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol.
Nod yr adolygiad yw casglu tystiolaeth o randdeiliaid allweddol am ba mor addas at bwrpas yn gyffredinol y mae cyfres gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru, adnabod unrhyw broblemau a/neu awgrymiadau sy’n codi o’r dystiolaeth honno, ac ystyried pa newidiadau neu ddigwyddiadau allai fod eu hangen i sicrhau bod cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn parhau i fodloni ein prif nodau.
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn rhan bwysig o ddysgu ar ôl 16 oed a rhaglenni prentisiaeth yng Nghymru ac rydyn ni’n awyddus i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymwysterau gwerth chweil a gwerthfawr.
Mae’r prosiect wedi ei rannu yn dri phrif gam: |
|
Cam 1 |
Adolygiad technegol o Egwyddorion Cynllunio Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a gynhelir gan yr Australian Council for Educational Research (ACER) a fydd wedi ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2022. Mae ffocws yr adolygiad technegol ar ddilysrwydd a dibynadwyedd cynnwys y cymhwyster a’r model asesu.
|
Cam 2 |
Rhaglen o ymgysylltu â rhanddeiliaid yn dechrau yn Rhagfyr 2022 gyda chyfres o gyfweliadau gyda darparwyr dysgu i gael adborth gan y rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o gyflwyno’r cymwysterau.
Sefydlu Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Sgiliau Hanfodol yng ngwanwyn 2023 er mwyn darparu arweiniad a mewnbwn i’r adolygiad a chyfeiriad y cymwysterau yn y dyfodol.
Lansio arolwg ar-lein yn haf 2023 yn cynnig y cyfle i randdeiliaid gael dweud eu dweud am gymwysterau Sgiliau Hanfodol.
|
Cam 3 |
Cyfweliadau pellach, trafodaethau a gweithdai yn 2023 a 2024 gyda dysgwyr, darparwyr addysg, cyflogwyr, Llywodraeth Cymru, cyrff dyfarnu a chyrff sector i sefydlu cyfeiriad cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn y dyfodol a chytuno ar hynny.
|
Bydd holl ganfyddiadau’r adolygiad a’n cynigion ar gyfer cynllun cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar gyfer y dyfodol yn cael eu cyhoeddi yn 2024.
Am ragor o wybodaeth neu er mwyn cofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan yn yr adolygiad hwn, cysylltwch â SgiliauHanfodolCymru@Cymwysteraucymru.org