Sgiliau Hanfodol Cymru
Beth yw cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru?
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn ymdrin â’r sgiliau allweddol y byddi di eu hangen ar gyfer bywyd, dysgu a chyflogaeth. Maen nhw’n cynnwys pedwar sgil allweddol:
- cymhwyso rhif
- cyfathrebu
- llythrennedd digidol
- cyflogadwyedd
Mae’r holl gymwysterau Sgiliau Hanfodol ar gael o lefel mynediad 1 i lefel 3, ac eithrio Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol, sydd ar gael o lefel mynediad 3 i lefel 3.
Maen nhw wedi cael eu datblygu i gael eu defnyddio mewn Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu Oedolion yn y Gymuned a lleoliadau amgen.