Tystysgrif Her Sgiliau Uwch
Ym mis Medi 2020, lansiwyd ein hymgynghoriad Sgiliau’r Dyfodol pan wnaethom ofyn am farn ar newidiadau arfaethedig i gymhwyster y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (THS) a fframwaith trosfwaol Bagloriaeth Cymru Uwch.
Yn sgil yr ymgynghoriad rydym wedi penderfynu cymryd y camau canlynol.
-
Dod â fframwaith Bagloriaeth Cymru i ben er mwyn canolbwyntio ar y cymhwyster annibynnol sy'n seiliedig ar sgiliau.
-
Creu cymhwyster newydd o'r enw 'Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru', a fydd ar gael o fis Medi 2023.
-
Dylunio'r cymhwyster newydd i fod yn fwy hylaw, yn fwy diddorol ac yn haws ei ddeall.
Gallwch ddarllen manylion llawn yr ymgynghoriad a'r canlyniadau yn ein hadroddiad penderfyniadau, ein hadroddiad canfyddiadau a'n fersiwn gryno, i gyd ar y dudalen hon.
Yn ystod yr ymgynghoriad, gofynnwyd hefyd i ymatebwyr rannu eu barn i'n helpu i benderfynu ar deitl y cymhwyster newydd. O ganlyniad teitl y cymhwyster newydd fydd Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3).