Bagloriaeth Cymru
Mae cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn unigryw i Gymru.
Mae'n helpu i baratoi myfyrwyr rhwng 14 a 19 oed ar gyfer y byd gwaith, ar gyfer astudio ymhellach ac ar gyfer bywyd.
Caiff cymhwyster Bagloriaeth Cymru ei ddyfarnu i fyfyriwr drwy gyflawni cyfuniad penodol o gymwysterau. Tystysgrif Her Sgiliau, sef cymhwyster arloesol sy'n seiliedig ar sgiliau, sydd wrth wraidd Bagloriaeth Cymru.
Mae Bagloriaeth Cymru hefyd yn cynnwys:
- Cymwysterau TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg Iaith, a Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd; a
- dewis o gymwysterau ategol - TGAU, Safon Uwch neu alwedigaethol.
Mae Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen ar gael yng Nghyfnod Allweddol 4 ac mae'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch a Bagloriaeth Cymru Uwch ar gael i ddysgwyr ôl-16.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar newidiadau i'r Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen fel rhan o'n hymgynghoriad Cymwys ar gyfer y dyfodol, ac yn edrych ar y cymwysterau sydd eu hangen i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cwricwlwm newydd.