Cymwysterau 2022-2023
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod
Bydd arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn digwydd eto ym mlwyddyn academaidd 2022-23.
Yn ystod yr haf, bydd arholiadau yn cael eu cynnal ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, ac ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol. Bydd asesiadau ymarferol ac asesiadau di-arholiad eraill yn cael eu cynnal hefyd.
Cafodd cymwysterau eu haddasu'r llynedd er mwyn mynd i'r afael â'r tarfu ar addysg oherwydd y pandemig. Er na fydd yr addasiadau hynny’n parhau yn y flwyddyn academaidd hon, bydd gwybodaeth ymlaen llaw yn cael ei darparu er mwyn cefnogi dysgwyr ar y daith yn ôl tuag at y trefniadau asesu a oedd yn cael eu defnyddio cyn y pandemig.
Rydyn ni yma i gefnogi dysgwyr, rhieni, gofalwyr, ysgolion a cholegau trwy gydol 2022/23, a byddwn ni’n parhau i ddefnyddio’r adran hon i gyhoeddi diweddariadau a gwybodaeth.