Y stori hyd yn hyn
Isod mae amserlen y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma ar raglen waith Cymwys ar gyfer y dyfodol.
2019
Rhwng 18 Tachwedd 2019 a 7 Chwefror 2020, fe wnaethon ni gynnal y cyntaf o’n hymgynghoriadau ar-lein ar gyfer Cymwys ar gyfer y dyfodol gan nodi ein gweledigaeth ar gyfer cymwysterau’r dyfodol ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed.
Yn ein hymgynghoriad, cynigion ni set o egwyddorion arweiniol a ddylai lywio’r ystod o gymwysterau yn y dyfodol, a gofyn beth ddylai ddigwydd gyda chymwysterau TGAU a’r Dystysgrif Her Sgiliau.
Fe wnaethon ni gomisiynu Arad, darparwr ymchwil annibynnol, i gynnal ein hymgynghoriad.
Mae’r dogfennau ymgynghori i’w gweld isod:
Teitl |
Dolen i’r ddogfen |
Cymwys ar gyfer y dyfodol - y brif ddogfen ymgynghori |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol - dogfen hawdd ei darllen |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol - dogfen sy’n addas ar gyfer pobl ifanc |
2020
Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 7 Chwefror 2020, fe wnaethon ni gomisiynu Arad i ddadansoddi’r ymatebion iddo. Mae’r dogfennau perthnasol i’w gweld isod:
Teitl |
Dolen i’r ddogfen |
Cymwys ar gyfer y dyfodol - crynodeb o’r canfyddiadau |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol - dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol - adroddiad ymgynghori sy’n addas ar gyfer pobl ifanc |
Yna fe wnaethon ni gyhoeddi adroddiad ar ein penderfyniadau yn dilyn yr ymgynghoriad ac amlinellu ein cyngor i’r Gweinidog Addysg ar y pryd ynghylch y dull roedden ni’n ei ystyried a chytuno ar sut y dylai cymwysterau newid yn y dyfodol.
I grynhoi, gwnaethon ni gytuno y dylai'r prif gymwysterau a gymerir gan bobl ifanc 14 i 16 oed gael eu galw'n TGAU o hyd, ond y dylai cynnwys ac asesiad cymwysterau TGAU newid.
Llythyr at y Gweinidog: Cyngor ar sut y bydd Cymwysterau Cymru yn pennu ystod o gymwysterau’r dyfodol ar gyfer pobl ifanc 16 oed.
2021
Ym mis Ionawr, fe wnaethon ni gynnal ail ymgynghoriad er mwyn casglu safbwyntiau ar sgiliau cyfannol o fewn y Dystysgrif Her Sgiliau (THS), yr ystod o bynciau a ddylai fod ar gael fel cymwysterau TGAU a chymwysterau eraill sydd wedi’u creu ar gyfer Cymru. Parodd yr ymgynghoriad tan Ebrill 2021.
Mae’r dogfennau ymgynghori i’w gweld isod:
Teitl |
Dolen i’r ddogfen |
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - y brif ddogfen ymgynghori |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc |
Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, comisiynwyd ORS, darparwr ymchwil annibynnol, i ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Mae dolenni i’r adroddiadau llawn a’r crynodebau i’w gweld isod:
Teitl |
Dolen i’r ddogfen |
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad |
Gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, cyhoeddwyd adroddiad a oedd yn amlinellu ein penderfyniadau ar gyfer pob pwnc ar lefel TGAU ym mis Hydref. D.S. Wnaethon ni ddim cynnwys cymwysterau Cymraeg yn yr adroddiad penderfyniadau cyntaf y gwnaethon ni ei gyhoeddi. Cyhoeddon ni ein penderfyniad ym mis Mawrth 2022.
Fe wnaethon ni hefyd gynnal gweminar gyda sesiwn holi ac ateb i drafod y penderfyniadau. Mae’r deunyddiau i’w gweld isod:
Teitl |
Dolen |
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - ein hadroddiad penderfyniadau |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - adroddiad cryno sy’n addas ar gyfer pobl ifanc |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - recordiad o’r weminar Canfyddiadau a Phenderfyniadau |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - sleidiau cyflwyniad y weminar Canfyddiadau a Phenderfyniadau |
|
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - cwestiynau ac atebion o’r weminar Canfyddiadau a Phenderfyniadau (dogfen ysgrifenedig) |
2022
Wnaethon ni ddim cynnwys cymwysterau Cymraeg yn ein hadroddiad penderfyniadau cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021. Penderfynon ni gadw ein penderfyniad yn ôl ac adolygu'r cymwysterau sydd ar gael ar lefel TGAU ynghyd â bwriadau polisi Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg.
Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, cyhoeddwyd ein penderfyniad ym mis Mawrth ar y cymwysterau Cymraeg a fydd ar gael i’w haddysgu am y tro cyntaf o 2025.
Gelli di ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymwysterau hyn yn yr adroddiad penderfyniadau neu drwy wylio ein gweminar ar-lein.
Mae’r deunyddiau i’w gweld isod:
Teitl |
Dolen |
Cymwys ar gyfer y dyfodol: y dewis cywir i Gymru - Ein penderfyniadau mewn perthynas â chymwysterau Cymraeg y dyfodol - adroddiad |
|
Gweminar Cymraeg 2050 - Newidiadau i Gymwysterau Cymraeg
|
|
Gweminar Cymraeg 2050 - Newidiadau i Gymwysterau Cymraeg - trawsgrifiad |
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith rydyn ni’n ei wneud eleni, cer i’r brif dudalen we.