Gweithdai pwrpasol yn ymwneud â’r cynnig ehangach
Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn casglu barn ar ba gymwysterau sydd eu hangen ochr yn ochr â TGAU ar gyfer dysgwyr 14-16 oed yng Nghymru i gefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Fel rhan o adolygiad helaeth, fe fuom ni’n gwrando ar farn dysgwyr, athrawon, colegau, Unedau Cyfeirio Disgyblion, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, prifysgolion, rhieni/gofalwyr ac eraill. Fe wnaethom ni hefyd edrych ar y cymwysterau sy’n cael eu cynnig mewn gwledydd eraill.
Yn dilyn hyn, rydyn ni’n cynnal gweithdai i rannu ein canfyddiadau ac archwilio syniadau cychwynnol ar gyfer y cynnig ehangach yn y dyfodol.
Cynhelir y gweithdai rhwng 13 a 21 Mehefin 2022 drwy Microsoft Teams ac ni ddylent bara mwy na 55 munud.
Rydyn ni’n cynnal sawl gweithdy ar gyfer gwahanol grwpiau; bydd pob sesiwn yn rhoi trosolwg o'r canfyddiadau ac yn trafod sut i fynd i'r afael â materion sydd wedi deillio o'r adolygiad ond bydd pob gweithdy’n gweddu i'r gynulleidfa. Rydyn ni eisiau clywed gan gynifer o bobl ag y gallwn o bob rhan o Gymru.
Cofrestrwch gan ddefnyddio'r dolenni yn y tabl isod erbyn y dyddiad cau penodol.
Pan fyddwch chi’n cofrestru, byddwch yn derbyn y ddolen ymuno drwy e-bost.
Dyddiad y gweithdy |
Amser gweithdy |
Cynulleidfa |
Cynnwys |
Dolen ar gyfer cofrestru |
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru |
13 Mehefin |
9.30am-10.30am |
Colegau* |
Ffocws ar syniadau cynnar a goblygiadau ar golegau a chynnydd |
https://www.eventbrite.co.uk/e/college-workshop-reshaping-the-wider-offer-tickets-349438679497
|
9 Mehefin |
15 Mehefin |
10am-11am |
Cyflogwyr - Sefydliadau bach, canolig a mawr ledled Cymru
|
Sut y gallai'r syniadau a drafodir o bosibl baratoi pobl ifanc ar gyfer cyflogaeth |
https://www.eventbrite.co.uk/e/employer-workshop-reshaping-the-wider-offer-tickets-349415730857
|
13 Mehefin |
16 Mehefin |
10am-11am |
Darparwyr Hyfforddiant* |
Ffocws ar syniadau cynnar, cynnydd a sut y gallai'r syniadau a drafodir o bosibl baratoi pobl ifanc ar gyfer cyflogaeth |
14 Mehefin |
|
17 Mehefin |
11.30am-12.30pm |
Colegau* |
Ffocws ar syniadau cynnar a goblygiadau ar golegau a chynnydd |
https://www.eventbrite.co.uk/e/2nd-college-workshop-reshaping-the-wider-offer-tickets-349446101697
|
15 Mehefin |
20 Mehefin |
1pm – 2pm |
Ysgolion a lleoliadau addysgol 14-16* (fel UCDau ac Addysg Heblaw yn yr Ysgol) |
Ffocws ar syniadau cynnar a goblygiadau ar ysgolion |
|
16 Mehefin |
21 Mehefin |
10:00am – 11:00am |
Ysgolion a lleoliadau addysgol 14-16* (fel UCDau ac Addysg Heblaw yn yr Ysgol) |
Ffocws ar syniadau cynnar a goblygiadau ar ysgolion |
|
14 Mehefin |
*Mae’r sesiynau i ysgolion a lleoliadau addysg 14-16, colegau a darparwyr hyfforddiant wedi'u hanelu at y canlynol:
- Penaethiaid Canolfannau ac Uwch arweinwyr
- Arweinwyr canol
- Penaethiaid Cynhwysiant / Arweinwyr Cynhwysiant
- Cydlynwyr Mwy Abl a Thalentog
- Enwebeion Ansawdd / Arweinwyr Ansawdd