Ail-lunio'r cynnig cymwysterau 14-16 ehangach yng Nghymru
Rydyn ni eisiau gwybod pa gymwysterau ddylai fod ar gael ochr yn ochr â’r TGAU newydd i ddiwallu anghenion pob dysgwr rhwng 14 ac 16 oed a chefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Beth yw'r cynnig ehangach?
Mae'r cynnig ehangach yn cyfeirio at yr holl gymwysterau nad ydynt yn gymwysterau TGAU a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed. Rydyn ni’n edrych ar gymwysterau o lefel mynediad i fyny ac yn edrych ar amrywiaeth eang o bynciau fel y Byd Gwaith, Gallu Ariannol, Datblygu Gyrfaoedd, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Diogelwch Bwyd, Sgiliau Hanfodol, Chwaraeon a Chymorth Cyntaf.
I’w roi yn ei gyd-destun, mae tua 1,200 o gymwysterau yn y gofod hwn.
Beth sydd wedi'i wneud hyd yn hyn?
Rydyn ni wedi adolygu’r cynnig cymwysterau presennol a sut mae hyn yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan werthuso’r cymwysterau rhyngwladol cyfatebol a chymharu cymwysterau yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a elwir yn ‘adolygiad desg’.
Rydyn ni wedi bod yn siarad ac yn gwrando ar ddysgwyr, athrawon, penaethiaid, cyflogwyr, rhieni/gofalwyr, darparwyr hyfforddiant, prifysgolion, cyrff dyfarnu ac eraill dros y misoedd diwethaf.
Fe wnaethom ni hefyd rannu dau holiadur ar-lein, un ar gyfer dysgwyr ac un ar gyfer eraill sydd â diddordeb mewn cymwysterau ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru. Roedd yr holiaduron yn archwilio’r syniadau canlynol:
- Pa gymwysterau a phynciau sydd eu hangen yn y gofod hwn yn y dyfodol?
- Pa sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr yn y grŵp oedran hwn?
- Pa rôl sydd gan asesu yn y cymwysterau hyn?
- Sut ddylai technoleg ddigidol gael ei defnyddio yn y cymwysterau hyn?
- Beth yw'r llwybrau dilyniant ar gyfer dysgu ôl-16?
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Rydyn ni wedi dadansoddi canfyddiadau ein holiaduron ar-lein, adborth gan randdeiliaid ac adolygiadau desg.
Rydyn ni hefyd yn cynnal rhywfaint o ymgysylltu dilynol â grwpiau penodol i archwilio’r syniadau cychwynnol a ddatblygodd o rownd gyntaf ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Byddwn ni’n cyflwyno ein canfyddiadau ac yn gofyn am eich barn ddechrau 2023. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am hyn yn nes at yr amser.