Cymwys ar gyfer y dyfodol
Mae cymwysterau TGAU yng Nghymru yn newid
Mae Emyr George, ein Cyfarwyddwr Diwygio a Pholisi, yn rhoi trosolwg o’r rhaglen waith yma.
Mae’n amser cyffrous i fod yn rhan o’r sgwrs genedlaethol ar sut mae ein dysgwyr ni’n gallu bod yn Gymwys ar gyfer y dyfodol.
Rydyn ni’n ail-ddychmygu cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed, i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Beth yw Cymwys ar gyfer y dyfodol?
Yn fras, rydyn ni’n adolygu cymwysterau mae pobl ifanc 14 i 16 oed yn eu cymryd ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn cynnwys cymwysterau TGAU, y Dystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau eraill fel BTEC, ac rydyn ni’n cyfeirio atyn nhw fel y ‘cynnig ehangach’.
Rydyn ni am i’r cymwysterau hyn gefnogi’r cwricwlwm newydd sy’n cael ei addysgu o fis Medi 2022 ymlaen; yn bwysicach, pedwar nod y cwricwlwm sy’n galluogi dysgwyr i fod yn:
- ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- cyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Wrth adolygu’r cymwysterau lefel TGAU presennol yn erbyn y pedwar nod uchod, rydyn ni’n sylweddoli bod angen gwneud rhai newidiadau. Mae'r rhain yn cynnwys:
- diwygio pynciau TGAU
- cyfuno pynciau TGAU
- pynciau’n cael eu cynnig fel cymwysterau TGAU newydd
Gelli di ddarllen rhagor am y newidiadau hyn yn ein hadroddiad penderfyniadau, sydd i’w weld ar dudalen we ‘Y stori hyd yn hyn’.
Beth sy’n digwydd nawr?
Ers i ni gyhoeddi ein hadroddiad penderfyniadau ym mis Hydref 2021 a chyhoeddi ein penderfyniad ar gymwysterau Cymraeg ar lefel TGAU, rydyn ni ar hyn o bryd yn ein cyfnod datblygu ar y cyd.
Yn hydref 2022, byddwn ni’n rhannu’r cynigion ar gyfer y cymwysterau TGAU a chymwysterau eraill ar eu newydd wedd. Bydd pawb yn cael cyfle i roi adborth ar gynllun a chynnwys lefel uchel y cymwysterau hyn.
Beth yw datblygu ar y cyd?
Pan fyddwn ni’n cyfeirio at ddatblygu cymwysterau TGAU ar y cyd neu gyd-lunio cymwysterau, mae hyn yn golygu ein bod ni’n gweithio'n agos gydag athrawon, dysgwyr, cynghorwyr arbenigol, a'r rhai sy'n dibynnu ar ganlyniadau cymwysterau fel cyflogwyr, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion, i ddatblygu cynigion ar gyfer y cymwysterau newydd a sut dylen nhw edrych o ran dyluniad, cynnwys ac asesu.
Gyda’n gilydd, rydyn ni’n datblygu cynigion ar gyfer pob pwnc unigol ym mhob un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) y cwricwlwm.
Mae dull tair haen yn bennaf gennyn ni ar gyfer datblygu ar y cyd:
- Gweithgorau lefel pwnc (SLWGs)
Mae un gweithgor lefel pwnc ar gyfer pob pwnc TGAU. Mae'r grwpiau'n cynnwys ymarferwyr, arbenigwyr pwnc ac arbenigwyr asesu. Yn y grwpiau, mae cyfranogwyr yn datblygu syniadau a chynigion ar gyfer cynnwys lefel uchel ac asesiad cymwysterau o fewn y maes pwnc hwnnw. Gall y grwpiau hyn hefyd ofyn cwestiynau i’r grwpiau rhwydwaith MDPh ehangach.
- Grwpiau rhwydwaith MDPh
Mae chwe grŵp rhwydwaith MDPh sy'n cefnogi'r gweithgorau lefel pwnc. Mae’r chwe grŵp rhwydwaith yn cynnwys athrawon, darlithwyr, arholwyr, cyrff dysgedig a phroffesiynol, ac eraill sydd â diddordeb ym mhob maes cwricwlwm.
Mae'r aelodau'n cynnig awgrymiadau rheolaidd ac yn helpu i nodi, trafod a mireinio syniadau mewn ymateb i adborth o gynigion y gweithgor lefel pwnc.
- Grŵp cyfeirio rhanddeiliaid
Mae grŵp cyfeirio rhanddeiliaid cwmpasog yn cynnig persbectif ehangach i syniadau a chynigion y grwpiau rhwydwaith MDPh a’r gweithgorau lefel pwnc, gan sicrhau ein bod yn bodloni nodau’r cwricwlwm.
Mae’r grŵp yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid sy’n cynrychioli gwahanol feysydd diddordeb o bob rhan o’r sector addysg a thu hwnt.
Maen nhw’n canolbwyntio ar y cynnig cymwysterau ac yn cynghori ar ystyriaethau fel:
- Hydrinedd
- Y gallu i gyflawni a chydlyniad
- Cysondeb â'r cwricwlwm
- Profiad dysgwyr
- Hygyrchedd a chynhwysiant
- Lles a chynnydd dysgwyr
Yn ogystal â'r tri grŵp uchod, mae sawl grŵp arall o fewn Cymwysterau Cymru sy'n helpu i archwilio a datblygu cynigion ar gyfer cymwysterau.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda dysgwyr o Flwyddyn 5 hyd at rai mewn Addysg Uwch er mwyn iddyn nhw allu helpu i lunio cymwysterau’r dyfodol yn unol â’u profiad, eu gwybodaeth a’u dyheadau trwy grwpiau ffocws ac arolwg ar-lein pwrpasol.