LLAIS: Cymwysterau Newydd ym maes Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Ar ôl cyhoeddi Adeiladu'r Dyfodol, ein hadolygiad o gymwysterau a'r system gymwysterau yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, ym mis Chwefror 2018, rydym wedi bwrw ati i ddatblygu gofynion sylfaenol ar gyfer y cymwysterau newydd y gwnaethom eu cynnig yn yr adolygiad hwn ac yr ymgynghorwyd yn eu cylch yn ystod gwanwyn 2018.
Rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r canlynol:
- Cyflogwyr o bob maint
- Cyrff masnach a chofrestru
- Byrddau hyfforddi'r diwydiant
- Ysgolion
- Colegau addysg bellach
- Sefydliadau addysg uwch
- Darparwyr dysgu seiliedig ar waith
- Cyrff a noddir gan y Llywodraeth
- Llywodraeth Cymru.
Gyda'n gilydd rydym wedi nodi'r strwythur a'r cynnwys hanfodol ar gyfer y cymwysterau newydd a'r trefniadau asesu mwyaf addas. Bydd cyfanswm o wyth cymhwyster newydd.
Bydd tri o'r rhain yn gymwysterau cyffredinol newydd i'w cyflwyno mewn ysgolion a cholegau addysg bellach:
- TGAU Amgylchedd Adeiledig
- TAG Safon UG Amgylchedd Adeiledig
- TAG Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig.
Bydd pump o'r cymwysterau yn gymwysterau ôl-16 i'w cyflwyno mewn colegau addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith:
- Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu
- Cymhwyster Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- Cymhwyster Prentisiaeth mewn Adeiladu
- Cymhwyster Prentisiaeth mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
I gael rhagor o wybodaeth am y teithiau posibl i ddysgwyr drwy'r cymwysterau ôl-16 hyn, cliciwch yma.
Mae pob un o'r cymwysterau ôl-16 yn cynnwys gwahanol asesiadau a gynhelir ar sgrin. I weld crynodeb o'r ffordd mae'r rhain yn gweithio, cliciwch yma.
Mae'r dogfennau ar ofynion sylfaenol y cymwysterau yn nodi diben pob cymhwyster, ei nodau a'i amcanion, y cynnwys hanfodol a'r trefniadau asesu sy'n ofynnol.
Cyn i ni lunio fersiwn derfynol o'n meini prawf cymeradwyo ar gyfer pob un o'r cymwysterau hyn, hoffem wahodd barn ac adborth ar ofynion sylfaenol y cymwysterau er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn cael y rhain yn iawn. Bydd y cyfnod ymgysylltu ar-lein hwn yn fyw rhwng 12pm, 7 Mai a 5pm, 21 Mehefin. Rydym yn gwahodd partïon sydd â diddordeb i wneud sylwadau ar ein gofynion arfaethedig ar gyfer pob cymhwyster drwy ymateb i bedwar cwestiwn:
- A yw diben y cymhwyster yn glir?
- A yw'r cynnwys arfaethedig yn addas at y diben?
- A yw'r trefniadau asesu arfaethedig yn addas at y diben?
- Pa ofynion hyfforddiant ac adnoddau fydd eu hangen ar ganolfannau i gyflwyno'r cymhwyster yn effeithiol?
Rydym yn annog ymatebwyr i gynnig adborth ar bob cymhwyster y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Ar gyfer pob cymhwyster yr hoffech gynnig eich sylwadau amdano, cliciwch ar ei deitl yn y golofn chwith i lawrlwytho’r ddogfen berthnasol a cliciwch ar y ddolen yn golofn dde i lenwi’r arolwg Llais.