Dywedwch wrthym beth yw eich barn am y cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant newydd yng Nghymru
Mae Cymwysterau Cymru yn gwahodd dysgwyr, athrawon ac aseswyr i rannu eu barn trwy lenwi holiadur byr ar-lein am y cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant newydd yng Nghymru.
Y cymwysterau newydd yw:
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd – City and Guilds
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) – City and Guilds
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) – City and Guilds
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) – City and Guilds
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd – CBAC
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer – City and Guilds
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori – CBAC
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer – City and Guilds
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau – CBAC
- TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant – CBAC
Mae’ch barn yn bwysig iawn i ni a gall yr adborth a roddwch helpu i lywio ein monitro o'r cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant hyn.
Mae’r holiadur ar agor o’r 4 Tachwedd 2019. Dylid ond cymryd pum munud i’w lenwi, ac mae’n hollol ddienw – ni fyddwn yn gofyn am eich enw nac enw eich canolfan/ysgol/coleg.
I lenwi’r holiadur dysgwyr, cliciwch yma.
I lenwi’r holiadur canolfan, cliciwch yma.