Diwrnodau datblygu ar gyfer Cymwysterau TGAU a TAG UG/Safon Uwch mewn Technoleg Ddigidol
Ar hyn o bryd, mae Cymwysterau Cymru yn datblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymwysterau TGAU a TAG UG/Safon Uwch newydd mewn Technoleg Ddigidol ac rydym yn chwilio am athrawon a darlithwyr a all helpu.
Drwy fynd i un o'n diwrnodau datblygu, byddwch yn helpu i lunio cynnwys y cymwysterau newydd a'r trefniadau asesu ar eu cyfer. Cynhelir y digwyddiadau ar:
- Mawrth 21: Venue Cymru, Llandudno
- Mawrth 25:Holiday Inn Express, Casnewydd
- Mawrth 26:Canolfan Gynadledda Halliwell, Caerfyrddin.
Cynhelir pob digwyddiad rhwng 09:45 a 14:30. Os hoffech fod yn bresennol, anfonwch e-bost atom yn datblygu@cymwysteraucymru.orgi gael rhagor o wybodaeth.