Datblygu Meini Prawf Cymeradwyo TAG UG/Lefel A Technoleg Ddigidol
Rydym yn datblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster TAG UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol newydd a fydd ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2022.
Yn ein hadolygiad o gymwysterau a'r system gymwysterau yn y sector technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, Digidol i’r Dyfodol, a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr 2018, gwnaethom nodi nifer o gamau gyda'r bwriad o fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adolygiad hwn. Un o’r camau hyn oedd datblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster TAG UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol newydd eang, i fod ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2022.
Rydym yn eich gwahodd i fynychu un o'n gweminarau, lle byddwn yn crynhoi ein cynigion ar gyfer y cymhwyster newydd hwn ac yn caniatáu i'r rhai sy'n bresennol ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt. Mae'r PDF rhyngweithiol isod yn cyflwyno'r cynigion hyn, ac efallai yr hoffech eu hadolygu cyn mynychu un o'r gweminarau.
Gallwch gofrestru ar gyfer ein gweminarau drwy ddilyn y dolenni isod:
Dyddiad ac Amser |
Dolenni |
4:00-5:00 Dydd Mawrth 6 Hydref 2020 |
|
4:00-5:00 Dydd Mercher 14 Hydref 2020 |
Efallai yr hoffech ddarllen y ddogfen meini prawf cymeradwyo ddrafft lawn sydd i'w gweld yma a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn yn ein harolwg adborth.
Mae'r ddogfen meini prawf cymeradwyo yn nodi'r trefniadau cynnwys ac asesu llawnach y bydd angen eu bodloni o fewn manylebau a ddatblygir gan gyrff dyfarnu. Cyn i ni gwblhau'r meini prawf cymeradwyo hyn, rydym yn gwahodd ymatebwyr i gynnig adborth i ni ynglŷn â:
- Diben y cymhwyster
- Y cynnwys arfaethedig
- Y trefniadau asesu arfaethedig
- Hydrinedd ein cynigion.
Bydd yr arolwg hwn ar agor tan 4:00 PM ar 23 Hydref 2020, a gellir gweld dolen i'r arrolwg yma.