Ymgynghoriad ar Gwynion, Chwythu'r Chwiban a Gorfodi
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben bellach. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn y man.
Rydym yn ceisio eich barn ar gyfres o bolisïau sy'n ymwneud â gorfodi, ymdrin â chwynion a chwythu'r chwiban.
Cyflwynwn y polisïau hyn gyda'i gilydd er mwyn dangos yr amrywiaeth o gamau gweithredu a gweithgareddau casglu gwybodaeth y gallem eu defnyddio fel rhan o'n rôl reoleiddio.
Cyflwyna'r ymgynghoriad hwn bump o'n polisïau:
- Cwynion am gyrff dyfarnu
- Polisi Chwythu'r Chwiban
- Cymryd Camau Pan Aiff Pethau o Chwith
- Polisi Capio Ffioedd
- Polisi Cosbau Ariannol
Gellir gweld yr ymgynghoriad yma.
Dylech ymateb i'r ymgynghoriad hwn erbyn 18:00 at 7 Chwefror 2018 fan bellaf gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein sydd ar gael yn
http://www.smartsurvey.co.uk/s/QWGorfodi/
Neu drwy gwblhau’r ffurflen yma ac ebostio eich ymateb i: polisi@cymwysteraucymru.org