Ymgynghoriad ar Newidiadau i'r Amodau Cydnabod
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach ar gau.
Ymgynghori
Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus tri rheoleiddiwr ar gynigion i adolygu ein priod Amodau ar 2 Awst 2019.
Mae'r ymgynghoriad yn ymateb i adborth a gasglwyd trwy nifer o adolygiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar, gan gynnwys adolygiad Cymwysterau Cymru o'i Amodau Cydnabod Safonol a galwad Ofqual am dystiolaeth ar argaeledd gwybodaeth am ffioedd.
Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael yma.
Cynigion Allweddol
Mae un newid allweddol a gynigir gan bob un o'r tri rheoleiddiwr yn ymwneud â'r Amodau ynghylch gwybodaeth ffioedd y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu ei darparu i brynwyr. Credwn ei bod yn bwysig bod y prisiau a godir am gymwysterau yn cynrychioli gwerth am arian, yn dryloyw i bob defnyddiwr, yn hygyrch i'r cyhoedd ac yn glir i brynwyr y cymwysterau hynny, fel ysgolion neu golegau.
Mae cynigion eraill yn yr ymgynghoriad yn cynnwys diwygiadau i eiriad Amodau am rôl y Swyddog Cyfrifol, yn ogystal â gwneud gofynion ynghylch hysbysiadau am Newid Rheolaeth yn gliriach. Rydym hefyd yn cynnig diwygiadau i Amodau ynghylch Cydnabod Dysgu Blaenorol a chyhoeddi canlyniadau.
Mae mwyafrif y newidiadau arfaethedig wedi'u cynllunio i wella eglurder a strwythur ein rheolau, gwneud diffiniadau'n haws eu cyrchu a'u diweddaru, heb newid y disgwyliadau a roddir ar gyrff dyfarnu.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys nifer fach o gynigion i ddiwygio Amodau dim ond un neu ddau o’r rheoleiddwyr. Mae'r rhain wedi cael eu cadw mor isel â phosibl ac yn y rhan fwyaf o achosion oherwydd bod cyd-destunau polisi neu ddeddfwriaeth yn golygu nad yw alinio yn bosibl neu nad yw'n berthnasol.
Dylid cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad hwn erbyn 18:00 ar 25 Hydref 2019 gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein sydd ar gael yma, neu drwy lenwi'r ffurflen ac anfon eich ymatebion drwy e-bost at polisi@cymwysteraucymru.org.
Rydym yn annog ac yn croesawu adborth gan bawb - y cyhoedd, defnyddwyr cymwysterau, cyrff dyfarnu a chanolfannau.
NODER: Rydym wedi gwneud mân gywiriadau i dablau crynodeb ar dudalennau 12 - 15 (Diwygiadau a gynigir yn ôl thema ac yn ôl rheoleiddiwr) ac ar dudalen 58 (Newidiadau arfaethedig i Dermau Diffiniedig). Nid yw'r diwygiadau hyn yn newid unrhyw un o'n cynigion a nodir yn y ddogfen ymgynghori; maent yn sicrhau bod y cynigion yn cael eu hadlewyrchu’n gywir ac yn llwyr.
Dogfennau Cysylltiedig
Ymgynghoriad ar Newidiadau i'r Amodau Cydnabod
Atodiad 1 - CCEA Regulation General Conditions of Recognition 2019 (Saesneg yn unig)
Atodiad 2 - Ofqual General Conditions of Recognition (Saesneg yn unig)
Atodiad 3 - Amodau Cydnabod Safonol Cymwysterau Cymru